Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on cym.victimandwitnessinformation.org.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Mynd i'r cynnwys Gadael y dudalen

Gwybod beth i’w ddisgwyl fel tyst

Mae Siarter y Tystion yn amlinellu’r safonau gwasanaeth y gallwch eu disgwyl gan sefydliadau cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr fel tyst i drosedd.

Mae’r prif safonau gofal ar gyfer tystion yn cynnwys:

  • cael prif bwynt cyswllt a fydd yn rhoi gwybod i chi am gynnydd yr achos, a naill ai’n darparu cefnogaeth neu’n eich cyfeirio at wasanaethau cymorth perthnasol
  • gallu hawlio costau teithio yn ôl ac ymlaen i’r llys, ac iawndal am unrhyw enillion a gollwyd o ganlyniad i ddod i’r llys
  • cael asesiad o anghenion er mwyn nodi unrhyw gymorth y gallai fod arnoch ei angen er mwyn rhoi tystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad neu yn y llys
  • cael ‘mesurau arbennig’ i’ch diogelu os ydych yn dyst bregus neu dan fygythiad – gallai’r rhain gynnwys rhoi tystiolaeth o’r tu allan i’r ystafell llys drwy gyswllt fideo, a gofyn i’r barnwr a bargyfreithwyr dynnu eu wigau a gynau
  • cael gwybodaeth am y llys a phroses y llys
  • cael eich trin ag urddas a pharch bob amser

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.