Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on cym.victimandwitnessinformation.org.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Mynd i'r cynnwys Gadael y dudalen

Datganiad hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd ar gyfer y wefan Gwybodaeth i Ddioddefwyr a Thystion

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Gwybodaeth i Ddioddefwyr a Thystion yn Victim and Witness Information

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n gyfrifol am y wefan hon.

Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, golyga hyn y dylech allu:

  • defnyddio gosodiadau eich porwr neu ategion i newid y lliwiau, y lefelau cyferbyniad a’r ffontiau
  • defnyddio gosodiadau eich porwr neu feddalwedd arall i wneud y testun hyd at 400% yn fwy heb iddo ddiflannu oddi ar y sgrin
  • mynd drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau ein bod wedi defnyddio iaith syml ar y wefan.

Mae gan AbilityNet gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Gwyddwn nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch ond dylai’r mwyafrif o bobl allu defnyddio’r wefan o hyd yn eithaf rhwydd.

  • Nid yw’r delweddau o daith y dioddefwr yn hygyrch i bobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin neu’r rhai hynny sy’n gwneud yr hyn sydd ar y sgrin yn fwy.
  • Bydd rhaid i ddefnyddwyr sy’n gwneud yr hyn sydd ar y sgrin yn fwy sgrolio i lawr y dudalen i ddod o hyd i’r prif ddolenni ar rai tudalennau pan fydd yr hyn sydd ar y sgrin tua 175% yn fwy.
  • Efallai y bydd pobl sy’n defnyddio meddalwedd adnabod llais yn cael trafferth dewis y botwm ‘gosodiadau cwcis’ – ceisiwch ddweud “pwyso gosodiadau cwcis/press cookie settings”
  • Efallai y bydd rhai defnyddwyr darllenydd sgrin yn canfod nad yw’r penawdau wastad yn y drefn orau
  • Efallai y bydd pobl sydd â nam ar eu golwg yn canfod nad oes llawer o gyferbyniad lliw gyda nifer fach o ddolenni

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os byddwch yn canfod unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u cynnwys ar y dudalen hon, neu’n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â:

accessibility.victimandwitness@digital.justice.gov.uk

Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat arall megis ar ffurf PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, cysylltwch ag:

accessibility.victimandwitness@digital.justice.gov.uk

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Y Weithdrefn Orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon gyda’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Equalities Commission for Northern Ireland (ECNI).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, a hynny yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Gyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 a hynny oherwydd yr enghreifftiau o beidio â chydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.

Anghydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Efallai na fydd testun y botwm cwcis yn gwneud synnwyr i rai defnyddwyr. Nid yw hyn yn bodloni WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 2.4.4: Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Gorffennaf 2025.

Mae rhywfaint o destun dolenni yn URL ac efallai y bydd hyn yn anodd i rai defnyddwyr ddeall. Nid yw hyn yn bodloni WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 2.4.4: Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Gorffennaf 2025.

Nid yw’r wybodaeth am daith y dioddefwr ar gael i bobl na allant ddefnyddio’r delweddau. Nid oes ganddynt destun amgen addas. Nid yw hyn yn bodloni WCAG 2.2 maen llwyddiant 1.1.1: Cynnwys nad yw’n destun. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Gorffennaf 2025.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Mae ein tîm yn adolygu hygyrchedd pob gwefan a grëwyd gan ddefnyddio’r system hon ac rydym yn ymdrechu i ddatrys unrhyw broblemau.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 30 Tachwedd 2023. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 19 Rhagfyr 2024. Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 15 Tachwedd 2023.

Cynhaliwyd y prawf gan Dîm Hygyrchedd Digidol y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Cynhaliwyd adolygiad sylfaenol ac nid archwiliad llawn. Mae’r system a ddefnyddiwyd i greu’r wefan (a elwir yn ‘Hale’) wedi’i archwilio yn y gorffennol a chafodd yr holl broblemau a ganfuwyd ar yr adeg honno eu datrys.

Bu inni ddefnyddio’r dull hwn i benderfynu ar sampl o dudalennau i’w profi – bu inni brofi’r holl dudalennau y mae defnyddwyr yn eu defnyddio fwyaf:

  • y dudalen hafan
  • y templed a ddefnyddir ar gyfer yr holl dudalennau
  • y dudalen canlyniadau chwiliad
  • y dudalen mynegai llywio
  • sampl o 5 tudalen safonol