Hysbysiad Preifatrwydd
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) yw’r rheolydd data ar gyfer y tudalennau sy’n dechrau gyda www.victimandwitnessinformation.org.uk er enghraifft, https://www.victimandwitnessinformation.org.uk/your-rights.
Os ydych yn clicio ar ddolen i wasanaeth a ddarperir gan adran arall o’r llywodraeth, asiantaeth neu awdurdod lleol, yna y sefydliad hwnnw fydd:
- y rheolydd data
- yn gyfrifol am brosesu unrhyw ddata y byddwch yn rhannu gyda nhw
- yn cyhoeddi ac yn rheoli eu hysbysiad preifatrwydd eu hunain gyda manylion am sut i gysylltu â nhw
Enghraifft
Os ydych yn gwneud hawliad am Gredyd Cynhwysol www.universal-credit.service.gov.uk, yr Adran Gwaith a Phensiynau fydd y rheolydd data a bydd hysbysiad preifatrwydd y gwasanaeth hwnnw yn berthnasol yn hynny o beth.
Y rheolydd data fydd yn penderfynu sut a pham y caiff data personol ei brosesu. Am ragor o wybodaeth, darllenwch gofnod Swyddfa’r Cabinet yn y Gofrestr Gyhoeddus Diogelu Data.
Y data rydym ni’n casglu
Mae’r data personol rydym yn ei gasglu gennych yn cynnwys:
- cwestiynau, ymholiadau neu adborth gennych, os byddwch yn cysylltu â victimandwitnessinformation.org.uk
- eich cyfeiriad IP, a manylion ynghylch pa fersiwn o borwr gwe y gwnaethoch ei ddefnyddio
- gwybodaeth ynghylch sut rydych yn defnyddio’r wefan, gan ddefnyddio cwcis a thechnegau tagio tudalen
Pan fyddwch yn rhoi eich caniatâd, byddwn yn defnyddio cwcis Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio victimandwitnessinformation.org.uk. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriadau IP.
Mae Google Analytics yn prosesu gwybodaeth am:
- y tudalennau yr ydych yn ymweld â hwy ar victimandwitnessinformation.org.uk
- faint o amser y byddwch yn ei dreulio ar bob tudalen ar victimandwitnessinformation.org.uk
- sut wnaethoch gyrraedd y wefan
- ar beth fyddwch chi’n clicio wrth ymweld â’r wefan
Ni fyddwn yn cyfuno gwybodaeth ddadansoddol gyda data arall mewn ffordd a fyddai’n arwain at adnabod pwy ydych chi.
Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio Google Analytics a chwcis eraill ar GOV.UK.
Pam bod angen eich data arnom
Rydym ni’n casglu eich data personol i:
- gasglu adborth i wella ein gwasanaethau
- ymateb i unrhyw adborth rydych wedi’i anfon atom, os ydych wedi gofyn inni wneud hynny
- monitro sut y defnyddir y wefan i adnabod bygythiadau diogelwch
- monitro perfformiad y wefan i adnabod aneffeithiolrwydd a gwallau JavaScript
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir drwy Google Analytics i weld sut ydych yn defnyddio victimandwitnessinformation.org.uk ac i weld pa mor dda mae’r wefan yn gweithio ar eich dyfais.
Rydym yn gwneud hyn i helpu:
- gwneud yn siŵr bod victimandwitnessinformation.org.uk yn diwallu anghenion defnyddwyr
- gwneud gwelliannau i sut mae’r wefan yn perfformio, er enghraifft gwella amser llwytho tudalennau a’r data a ddefnyddir
Ein sail gyfreithiol dros brosesu eich data
Y sail gyfreithiol dros brosesu data personol mewn perthynas â diogelwch y wefan yw ein buddiannau cyfreithlon, a buddiannau cyfreithlon ein defnyddwyr, wrth sicrhau diogelwch a chywirdeb victimandwitnessinformation.org.uk.
Y sail gyfreithiol dros brosesu data a gesglir gyda Google Analytics ar victimandwitnessinformation.org.uk yw eich caniatâd.
Y sail gyfreithiol dros brosesu’r holl ddata personol arall yw ei fod yn angenrheidiol:
- i berfformio tasg er budd y cyhoedd
- i ni ymarfer ein swyddogaethau
Beth rydym yn ei wneud gyda’ch data
Efallai y bydd y data’n cael ei rannu gydag adrannau eraill y llywodraeth, asiantaethau neu gyrff cyhoeddus. Efallai y bydd yn cael ei rannu gyda’n cyflenwyr technoleg, er enghraifft ein darparwr lletya.
Byddwn yn rhannu eich data os bydd gofyn inni wneud hynny yn ôl y gyfraith – er enghraifft, gan orchymyn llys neu i atal twyll neu drosedd arall.
Bydd y data a gesglir gennym gyda chwcis Google Analytics yn cael ei drosglwyddo a’i storio gan Google lle byddwn yn ei ddadansoddi gyda meddalwedd Google Analytics (Universal Analytics). Nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio na rhannu’r data hwn er eu dibenion eu hunain.
Ni fyddwn yn:
- gwerthu neu’n rhentu eich data i unrhyw drydydd parti
- rhannu eich data gydag unrhyw drydydd parti at ddibenion marchnata
Pa mor hir y byddwn yn cadw eich data
Byddwn ond yn cadw eich data personol am gyhyd ag y mae ei angen ar gyfer y pwrpasau a nodwyd ar y dudalen hon neu am gyhyd ag y mae’r gyfraith yn gofyn i ni wneud hynny.
Byddwn yn:
- • cadw eich data adborth am 2 flynedd
Ble mae eich data’n cael ei brosesu a’i storio
Rydym yn dylunio, yn adeiladu ac yn rhedeg ein systemau i sicrhau bod eich data mor ddiogel â phosib ar bob cam, tra bydd yn cael ei brosesu a phan fydd yn cael ei storio.
Caiff yr holl ddata personol ei storio yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA). Efallai y bydd data a gesglir gan Google Analytics yn cael ei drosglwyddo y tu allan i EEA i’w brosesu.
Pan fydd data yn cael ei brosesu yn yr Unol Daleithiau, mae’n rhaid i gyflenwyr fodloni’r safonau tystysgrif a nodir yng nghytundeb UK-US data bridge. Mae hyn yn hwyluso trosglwyddo data personol i gwmnïau ardystiedig yn yr Unol Daleithiau sydd wedi optio mewn i Fframwaith Preifatrwydd Data UE-UD.
Sut rydym yn diogelu eich data ac yn ei gadw’n ddiogel
Rydym yn sicrhau bod y data personol a gedwir gennym yn destun mesurau diogelwch priodol sy’n unol â pholisi diogelwch y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae ein staff yn cael hyfforddiant diogelu data, ac mae gennym set o bolisïau diogelu data manwl y mae’n rhaid iddynt eu dilyn wrth ddelio â data personol.
Eich hawliau
Mae gennych yr hawl i ofyn:
- am wybodaeth ynghylch sut mae eich data personol yn cael ei brosesu
- am gopi o’r data personol hwnnw
- i unrhyw beth sy’n anghywir yn eich data personol gael ei gywiro ar unwaith
Gallwch hefyd:
- godi gwrthwynebiad am sut mae eich data personol yn cael ei brosesu
- gofyn i’r data personol hwnnw gael ei ddileu os nad oes cyfiawnhad dros ei gadw
- gofyn am gyfyngu ar brosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau
Os hoffech wneud un o’r ceisiadau hyn, cysylltwch â ni.
Dolenni i wefannau eraill
Mae victimandwitnessinformation.org.uk yn cynnwys dolenni i wefannau eraill.
Dim ond i victimandwitnessinformation.org.uk y mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol ac nid yw’n cynnwys gwasanaethau eraill yr ydym yn darparu dolenni iddynt. Mae gan y gwasanaethau hyn eu telerau ac amodau a’u polisïau preifatrwydd eu hunain.
Dilyn dolen i wefan arall
Os byddwch yn ymweld â gwefan arall o’r wefan hon, darllenwch bolisi preifatrwydd y wefan honno i ganfod beth mae’n gwneud gyda’ch gwybodaeth.
Dilyn dolen i victimandwitnessinformation.org.uk o wefan arall
Os byddwch yn ymweld â victimandwitnessinformation.org.uk o wefan arall, efallai y byddwn yn cael gwybodaeth bersonol o’r wefan arall. Dylech ddarllen polisi preifatrwydd y wefan y daethoch ohoni i gael gwybod mwy am hyn.
Cysylltu â ni neu wneud cwyn
Cysylltwch â ni:
- os oes gennych gwestiwn am unrhyw beth yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn
- os ydych yn credu bod eich data personol wedi’i gamddefnyddio neu ei gamdrafod
Gallwch gysylltu â ni drwy:
E-bost:: websitefeedback@justice.gov.uk
Gallwch hefyd wneud cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n reoleiddiwr annibynnol.
Y Comisiynydd Gwybodaeth
icocasework@ico.org.uk
Rhif ffôn: 0303 123 1113
Ffôn Testun: 01625 545860
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 4:30pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer SK9 5AF
Newidiadau i’r polisi hwn
Mae’n bosib y byddwn yn gwneud newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn. Os felly, bydd y dyddiad ‘diweddarwyd diwethaf’ ar waelod y dudalen hon hefyd yn newid. Bydd unrhyw newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi a’ch data yn syth.
Os bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar sut caiff eich data personol ei brosesu, bydd victimandwitnessinformation.org.uk yn cymryd camau priodol i’ch hysbysu am hyn.
Diweddarwyd diwethaf 4 Rhagfyr 2023