Gwneud cwyn
Fel dioddefwr neu dyst i drosedd, rydych yn haeddu cael eich trin ag urddas, sensitifrwydd a pharch. Gallwch gwyno os ydych yn anfodlon â’r ffordd y cawsoch eich trin gan unrhyw rai o’r gwasanaethau sy’n eich cefnogi ar ôl trosedd. Gall eich cwyn fod ynglŷn ag unrhyw gam o’r broses – o riportio trosedd yn y lle cyntaf i’r gefnogaeth a gynigir ar ôl treial.
Mae ffyrdd gwahanol o ymdrin â phob cwyn, gan ddibynnu a yw’n ymwneud ag:
- asiantaeth cyfiawnder troseddol, fel yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron neu’r llysoedd
- elusen leol neu wasanaeth cymorth arbenigol
Cwyno am asiantaeth cyfiawnder troseddol
Mae’r Cod Dioddefwyr yn esbonio’r hawliau y gall pawb ddisgwyl eu cael fel dioddefwr trosedd. Os ydych yn teimlo nad yw eich hawliau wedi’u bodloni, gallwch wneud cwyn.
Y camau i wneud cwyn
- Trafod eich cwyn gyda’r sawl rydych wedi bod yn delio gydag ef/hi.
- Os nad ydych yn gallu siarad â’r person hwn, neu os nad ydych yn fodlon â’i ymateb, gwnewch gŵyn ffurfiol i’r sefydliad y mae’n gweithio iddo, er enghraifft eich heddlu lleol neu Wasanaeth Erlyn y Goron.
- Os oes angen, bydd y sefydliad yn anfon eich cwyn ymlaen i’r lle iawn ac yn rhoi gwybod i chi.
Dylech gael cydnabyddiaeth cyn pen 10 diwrnod gwaith a chael gwybod pryd i ddisgwyl ymateb. Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon, gallwch ofyn i’ch AS lleol anfon eich cwyn ymlaen i’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd, sy’n gyfrifol am ystyried cwynion sy’n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus.
Cwyno am elusen neu wasanaeth cymorth arbenigol
Nid yw llawer o elusennau a gwasanaethau lleol yn dod o dan y Cod Dioddefwyr, ond bydd ganddynt eu proses gwyno eu hunain. Dechreuwch drwy wneud cwyn yn syth i’r elusen neu’r gwasanaeth.
Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.