Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on cym.victimandwitnessinformation.org.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Mynd i'r cynnwys Gadael y dudalen

Hawlio iawndal

Efallai y gallwch hawlio iawndal neu wneud cais am fudd-daliadau os ydych wedi cael eich effeithio gan drosedd. Mae hyn yn cynnwys: 

  • os ydych yn ddioddefwr trosedd
  • os ydych yn berthynas agos i rywun sydd wedi marw oherwydd trosedd
  • os ydych yn dyst i drosedd ddifrifol, yn gysylltiedig â throsedd ddifrifol neu wedi cael eich anafu’n ddifrifol

Mae 3 ffordd y gallwch gael iawndal.

1. Gorchmynion iawndal troseddol

Os yw rhywun wedi cael ei ddyfarnu’n euog o drosedd, gall y llys orchymyn y dylai dalu iawndal i chi. Gallai hyn fod am:

  • anaf personol
  • colledion o ganlyniad i ladrad neu ddifrod i eiddo
  • colledion o ganlyniad i dwyll
  • bod gartref o’r gwaith
  • costau meddygol
  • costau teithio
  • poen a dioddefaint
  • colled, difrod neu anaf a achoswyd gan gerbyd wedi’i ddwyn

Mae swm yr iawndal yn dibynnu ar yr hyn sy’n briodol ym marn y llys. Byddant yn ystyried unrhyw dystiolaeth ac unrhyw ystyriaethau a godwyd gan y troseddwr (er enghraifft, ei amgylchiadau ariannol) neu’r erlynydd (er enghraifft, faint o iawndal rydych yn gobeithio ei gael).

Nid oes uchafswm ar gyfer gwerth gorchymyn iawndal unigol. Ond mae’n rhaid i’r llys sicrhau cydbwysedd rhwng darparu iawndal teg i’r dioddefwr a pheidio â gorfodi dyledion afrealistig neu na ellir eu gorfodi ar y troseddwr.

2. Cynllun Iawndal am Anafiadau Troseddol

Os ydych wedi cael eich anafu o ganlyniad i drosedd dreisgar, gallwch wneud cais am iawndal gan y Cynllun Iawndal am Anafiadau Troseddol. Fel arfer, mae’n rhaid i chi hawlio iawndal cyn pen 2 flynedd ar ôl y drosedd, a rhaid i chi riportio’r drosedd i’r heddlu cyn gwneud cais.

Darganfod a ydych yn gymwys a sut i wneud cais i’r cynllun.

3. Iawndal sifil

Mae hefyd yn bosibl gwneud hawliad drwy’r llysoedd sifil, sef llysoedd anhroseddol sy’n ymdrin ag anghydfodau preifat rhwng unigolion neu gwmnïau. Er enghraifft, gallech hawlio iawndal am anaf personol, ymosodiad neu ddifrod i eiddo.

Dylech gael cyngor cyfreithiwr yn gyntaf, gan fod y broses yn fwy cymhleth. Caiff hawliadau sifil eu dwyn yn erbyn y sawl a gyflawnodd y drosedd ac mae costau yn gysylltiedig â hyn.

Budd-daliadau

Os ydych yn gwella ar ôl anafiadau difrifol, mae’n bosibl y gallwch hawlio budd-daliadau.  

Os yw perthynas agos i chi wedi marw, efallai y gallwch hawlio budd-daliadau profedigaeth.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ynglŷn â budd-daliadau, gallwch wneud cais i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant.

Yswiriant 

Efallai y gallwch wneud hawliad yswiriant: 

  • os yw eich yswiriant yn eich gwarchod rhag troseddau eiddo fel lladrad neu fandaliaeth
  • os oes gan eich cyflogwr yswiriant sy’n gwarchod rhag anaf neu farwolaeth yn y gwaith
  • os ydych yn gwybod pwy gyflawnodd y drosedd – efallai y gallwch wneud hawliad yn erbyn ei bolisi yswiriant

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad cwmni yswiriant, gallwch wneud cais i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad cyflogwr, gallwch siarad ag Acas

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.