Mynd i'r cynnwys Gadael y dudalen

Diogelwch ar-lein

Os oes angen i chi guddio’r hyn rydych chi’n ei wneud ar y wefan hon, neu amddiffyn eich hun rhag rhywun, gall fod yn fwy diogel i chi beidio â defnyddio’ch cyfrifiadur cartref na’ch ffôn symudol eich hun.

Er enghraifft, defnyddiwch gyfrifiadur yn y llyfrgell, neu ceisiwch fenthyg ffôn gan rywun rydych chi’n ymddiried ynddo.

Beth mae’r wefan hon yn ei gadw i’ch dyfais

Pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon, a phob tro y byddwch yn defnyddio’r rhyngrwyd, mae eich dyfais yn cadw cofnod o’r canlynol:

  • y tudalennau rydych chi wedi edrych arnyn nhw a’r ffeiliau rydych chi wedi’u lawrlwytho – eich ‘hanes pori’ yw’r enw ar hyn
  • ffeiliau bach o’r enw ‘cwcis’

Sut i ddileu cwcis a’ch hanes pori

Byddwch yn ofalus oherwydd:

  • bydd dileu cwcis hefyd yn dileu cyfrineiriau sydd wedi’u storio ar gyfer cyfrifon ar-lein
  • gallai clirio eich hanes wneud rhywun yn fwy amheus

Ceisiwch ddileu gwybodaeth am y gwefannau rydych chi am eu cadw’n breifat yn unig.

Gwybodaeth am sut i wneud hynny ar:

Sut mae’r botwm ‘Gadael y dudalen hon’ yn gweithio ar y wefan hon

Mae botwm ‘Gadael y dudalen hon’ ar rai tudalennau. Os cliciwch y botwm hwn, bydd yr holl wybodaeth rydych chi wedi’i nodi yn cael ei dileu. Bydd y wefan hon yn cau.

Byddwch yn mynd i dudalen hafan BBC Weather yn awtomatig: https://www.bbc.co.uk/weather/

Bydd cwcis a hanes pori yn dal i gael eu cadw ar eich dyfais.

Ar unrhyw dudalen lle gwelwch y botwm ‘Gadael y dudalen hon’, bydd pwyso’r fysell ‘Shift’ 3 gwaith yn gweithio yr un ffordd.

I ddod o hyd i’r wefan hon eto, chwiliwch am ‘Gwybodaeth am ddioddefwyr a thystion’.

Sut i ddefnyddio’r wefan hon heb storio cwcis a hanes pori

Defnyddiwch y gosodiadau ‘pori preifat’. Ewch i’r ddewislen ar eich porwr, cliciwch ar ‘Ffeil’ a trowch y canlynol ymlaen:

  • Incognito ar Google Chrome
  • Private Window ar Safari
  • InPrivate ar Internet Explorer
  • Private Browsing ar Mozilla Firefox

Ar rhyngrwyd Samsung, rhaid ichi droi Secret mode ymlaen.

Cael cymorth i gadw’n ddiogel ar-lein

Mae yna ffyrdd eraill y gall rhywun eich tracio ar-lein, er enghraifft trwy ddefnyddio rhaglenni ysbïo neu dracio. Gwelwch y wefan Refuge Secure your tech.