Deall eich hawliau


Os ydych wedi bod yn ddioddefwr neu’n dyst i drosedd, mae yna safonau penodol y gallwch eu disgwyl gan sefydliadau cyfiawnder troseddol fel yr heddlu a’r llysoedd, a elwir yn ‘hawliau’.
Pwy bynnag ydych chi, a beth bynnag yw’r drosedd sydd wedi cael effaith arnoch chi, rydych yn haeddu deall beth yw’r rhain, a chael eich trin â charedigrwydd, urddas a pharch.

Gwybod beth i’w ddisgwyl fel dioddefwr
Darganfod yr hawliau y gallwch ddisgwyl eu cael dan y Cod Dioddefwyr. Ar y wefan hon, mae cyfeiriadau at ‘hawliau’ yn golygu’r gwasanaethau y dylid eu darparu i ddioddefwyr trosedd dan y Cod Dioddefwyr.

Gwybod beth i’w ddisgwyl fel tyst
Darganfod pa safonau gofal y gallwch ddisgwyl eu cael dan Siarter y Tystion.
Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.