Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on cym.victimandwitnessinformation.org.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Mynd i'r cynnwys Gadael y dudalen

Gwybod beth yw eich hawliau fel dioddefwr

Mae’r Cod Dioddefwyr yn esbonio’r hawliau y gall pawb ddisgwyl eu cael fel dioddefwr trosedd.

Pwy bynnag ydych chi a beth bynnag yw’r drosedd, mae gennych yr hawl i gael gwybod am y broses cyfiawnder troseddol a’r cymorth sydd ar gael.

Mae asiantaethau cyfiawnder troseddol fel yr heddlu a’r llysoedd yn gyfrifol am sicrhau bod dioddefwyr yn cael yr hawliau a nodir yn y Cod Dioddefwyr. Gallwch ddisgwyl iddynt ddweud wrthych am eich hawliau wrth ichi fynd drwy’r broses cyfiawnder troseddol.

Mae’r asiantaethau cyfiawnder troseddol yn cynnwys:

  • Yr heddlu
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron (GEG)
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (GLlTEF)
  • Timau Troseddwyr Ifanc
  • Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF (HMPPS)
  • Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP)

Os byddwch yn penderfynu peidio â riportio’r drosedd, gallwch gael cymorth o hyd a chlywed am y Cod Dioddefwyr gan wasanaethau cymorth.

Beth yw fy hawliau o dan y Cod Dioddefwyr?

Hawl 1: I allu deall a chael eich deall

Mae gennych yr hawl i ddeall y wybodaeth a roddir i chi ac i gael eich deall. Mae hyn yn cynnwys mynediad at wasanaethau cyfieithu neu ddehongli os oes angen.

Hawl 2: I fanylion y drosedd gael eu cofnodi heb oedi na ellir ei gyfiawnhau

Mae gennych yr hawl i gael yr heddlu i gofnodi’r drosedd yn brydlon ac efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol gan arbenigwr os oes angen help arnoch i gyfathrebu. Darllenwch fwy am riportio trosedd.

Hawl 3: I gael gwybodaeth pan fyddwch yn riportio’r drosedd

Mae gennych yr hawl i gael cadarnhad ysgrifenedig bod y drosedd wedi’i chofnodi, cael gwybodaeth am y broses cyfiawnder troseddol, a chael gwybod am wasanaethau cymorth.

Hawl 4: I gael eich cyfeirio at wasanaethau sy’n cefnogi dioddefwyr a chael gwasanaethau a chymorth sydd wedi ei deilwra ar gyfer eich anghenion

Mae gennych yr hawl i gael eich cyfeirio at wasanaethau cymorth neu gysylltu â nhw’n uniongyrchol. Dylid dweud wrthych hefyd am unrhyw gymorth ychwanegol yn y llys sydd ar gael i chi. Darllenwch fwy am y cymorth sydd ar gael.

Hawl 5: I gael gwybodaeth am iawndal

Mae gennych yr hawl i gael gwybod am iawndal a allai fod ar gael am unrhyw golled, difrod neu anaf a achosir gan drosedd. Darllenwch fwy am hawlio iawndal.

Hawl 6: I gael gwybodaeth am yr ymchwiliad a’r erlyniad

Mae gennych yr hawl i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am eich achos, cael gwybod am benderfyniadau pwysig a gofyn am adolygiad o rai penderfyniadau.

Hawl 7: I wneud Datganiad Personol Dioddefwr

Mae gennych yr hawl i wneud datganiad yn dweud wrth y llys sut mae’r drosedd wedi effeithio arnoch chi, a bydd yn cael ei ystyried wrth ddedfrydu’r troseddwr.

Hawl 8: I gael gwybodaeth am y treial, proses y treial a’ch rôl fel tyst

Mae gennych yr hawl i gael gwybod am ddyddiad, lleoliad a chanlyniad unrhyw wrandawiad. Os oes angen i chi roi tystiolaeth, gallwch gael help cyn, yn ystod ac ar ôl y treial. Darllenwch fwy am broses y llys.

Hawl 9: I gael gwybodaeth am ganlyniad yr achos ac unrhyw apeliadau

Mae gennych yr hawl i gael gwybod canlyniad yr achos a’r ddedfryd. Os yw’r troseddwr yn apelio, dylid dweud wrthych beth yw’r canlyniad.

Hawl 10: I dderbyn treuliau a chael eich eiddo yn ôl

Mae gennych yr hawl i hawlio treuliau o roi tystiolaeth yn y llys. Os cymerwyd eiddo fel tystiolaeth, dylech ei gael yn ôl yn brydlon.

Hawl 11: I gael gwybodaeth am y troseddwr yn dilyn euogfarn

Mae gennych yr hawl i ymuno â’r Cynllun Cyswllt Dioddefwyr os ydych yn gymwys. Mae’r cynllun yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddedfryd y troseddwr, gan gynnwys pan fydd yn cael ei ystyried ar gyfer ei ryddhau.

Hawl 12: I wneud cwyn am hawliau nad ydych wedi eu cael

Mae gennych yr hawl i gwyno i’r sefydliad perthnasol os ydych yn anhapus gyda’r ffordd yr ydych wedi cael eich trin. Darllenwch fwy am wneud cwyn.

Mae gwahanol fersiynau ar gael i helpu pob dioddefwr i ddeall ei hawliau:

Dod o hyd i gymorth

A allaf gael mwy o gymorth fel dioddefwr trosedd?

Os ydych chi o dan 18 oed, yn cael eich ystyried yn agored i niwed, wedi cael eich dychryn neu wedi’ch targedu dro ar ôl tro ac yn fwriadol, neu os ydych chi’n ddioddefwr trosedd ddifrifol, efallai y byddwch yn gymwys i gael hawliau ychwanegol. Gallai’r rhain gynnwys cael eich cyfeirio at wasanaeth cymorth arbenigol, cael eich diweddaru’n gynt ar ôl penderfyniadau allweddol a chael cymorth ychwanegol i roi tystiolaeth yn y llys. Darllenwch fwy am hawliau ychwanegol.

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.