Gwybod beth i’w ddisgwyl fel tyst


Mae Siarter y Tystion yn amlinellu’r safonau gwasanaeth y gallwch eu disgwyl gan sefydliadau cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr fel tyst i drosedd.
Mae’r prif safonau gofal ar gyfer tystion yn cynnwys:
- cael prif bwynt cyswllt a fydd yn rhoi gwybod i chi am gynnydd yr achos, a naill ai’n darparu cefnogaeth neu’n eich cyfeirio at wasanaethau cymorth perthnasol
 - gallu hawlio costau teithio yn ôl ac ymlaen i’r llys, ac iawndal am unrhyw enillion a gollwyd o ganlyniad i ddod i’r llys
 - cael asesiad o anghenion er mwyn nodi unrhyw gymorth y gallai fod arnoch ei angen er mwyn rhoi tystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad neu yn y llys
 - cael ‘mesurau arbennig’ i’ch diogelu os ydych yn dyst sy’n agored i niwed neu dan fygythiad – gallai’r rhain gynnwys rhoi tystiolaeth o’r tu allan i’r ystafell llys drwy gyswllt fideo, a gofyn i’r barnwr a bargyfreithwyr dynnu eu perwigau a gynau
 - cael gwybodaeth am y llys a phroses y llys
 - cael eich trin ag urddas a pharch bob amser