Ymosodiadau gan derfysgwyr
Beth allwch chi ei wneud os yw’n digwydd i chi
Gall bod yn ddioddefwr ymosodiad gan derfysgwyr fod yn brofiad trawmatig, ac mae’n bosibl y bydd arnoch angen cymorth ar ôl y digwyddiad. Mae cymorth ar gael bob amser i unrhyw un sydd wedi’i effeithio, gan gynnwys y rhai hynny sydd wedi profi profedigaeth, tystion, unigolion sydd wedi’u heffeithio’n gorfforol ac yn emosiynol ac ymatebwyr cyntaf i leoliad yr ymosodiad. Gallwch gael cymorth emosiynol ac ymarferol arbenigol yn syth ar ôl ymosodiad neu ar unrhyw adeg yn ystod eich siwrnai tuag at adferiad.
I siarad â rhywun ar unwaith, ffoniwch linell gymorth rhad ac am ddim 24/7 Cymorth i Ddioddefwyr ar 0808 168 9111 neu ewch i www.victimsupport.org.uk/live-chat.
Darllenwch fwy am gymorth sydd ar gael yn dilyn ymosodiad gan derfysgwyr.
Sefydliadau a all helpu
Mae cymorth ar gael i unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan ymosodiad terfysgol yn y DU neu Ddinasyddion Prydeinig sy’n dychwelyd o ymosodiad tramor. Mae’r Swyddfa Gartref yn ariannu 3 sefydliad fel rhan o lwybr dioddefwyr a goroeswyr er mwyn helpu dioddefwyr a goroeswyr i ymdopi, a dod atynt eu hunain, yn dilyn effaith ymosodiad gan derfysgwyr.
- Cymorth i Ddioddefwyr – yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol ar unwaith. Maent yn gwneud asesiadau o anghenion yn dilyn digwyddiad terfysgol ar gyfer pob dioddefwr a goroeswr, a gallant eich cyfeirio at y gwasanaethau isod neu wasanaethau eraill os yw hynny’n briodol.
- Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG De Llundain a Maudsley – yn darparu asesiadau iechyd meddwl clinigol ac atgyfeiriadau i driniaeth seicolegol briodol.
- Sefydliad Tim Parry Johnathan Ball – yn cynnig rhwydwaith cymheiriaid hirdymor a gall ddarparu cymorth un-i-un.
Os hoffech chi neu rywun rydych yn ei adnabod gael y cymorth hwn, ffoniwch linell gymorth rhad ac am ddim 24/7 Cymorth i Ddioddefwyr ar 0808 168 9111 neu ewch i www.victimsupport.org.uk/live-chat
Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.