Hawlio iawndal
Efallai y gallwch hawlio iawndal neu wneud cais am fudd-daliadau os ydych wedi cael eich effeithio gan drosedd. Mae hyn yn cynnwys:
- os ydych yn ddioddefwr trosedd
- os ydych yn berthynas agos i rywun sydd wedi marw oherwydd trosedd
- os ydych yn dyst i drosedd ddifrifol, yn gysylltiedig â throsedd ddifrifol neu wedi cael eich anafu’n ddifrifol
Mae 3 ffordd y gallwch gael iawndal.
1. Gorchmynion iawndal troseddol
Os yw rhywun wedi cael ei ddyfarnu’n euog o drosedd, gall y llys orchymyn y dylai dalu iawndal i chi. Gallai hyn fod am:
- anaf personol
- colledion o ganlyniad i ladrad neu ddifrod i eiddo
- colledion o ganlyniad i dwyll
- bod gartref o’r gwaith
- costau meddygol
- costau teithio
- poen a dioddefaint
- colled, difrod neu anaf a achoswyd gan gerbyd wedi’i ddwyn
Mae swm yr iawndal yn dibynnu ar yr hyn sy’n briodol ym marn y llys. Byddant yn ystyried unrhyw dystiolaeth ac unrhyw ystyriaethau a godwyd gan y troseddwr (er enghraifft, ei amgylchiadau ariannol) neu’r erlynydd (er enghraifft, faint o iawndal rydych yn gobeithio ei gael).
Nid oes uchafswm ar gyfer gwerth gorchymyn iawndal unigol. Ond mae’n rhaid i’r llys sicrhau cydbwysedd rhwng darparu iawndal teg i’r dioddefwr a pheidio â gorfodi dyledion afrealistig neu na ellir eu gorfodi ar y troseddwr.
2. Cynllun Iawndal am Anafiadau Troseddol
Os ydych wedi cael eich anafu o ganlyniad i drosedd dreisgar, gallwch wneud cais am iawndal gan y Cynllun Iawndal am Anafiadau Troseddol. Fel arfer, mae’n rhaid i chi hawlio iawndal cyn pen 2 flynedd ar ôl y drosedd, a rhaid i chi riportio’r drosedd i’r heddlu cyn gwneud cais.
Darganfod a ydych yn gymwys a sut i wneud cais i’r cynllun.
3. Iawndal sifil
Mae hefyd yn bosibl gwneud hawliad drwy’r llysoedd sifil, sef llysoedd anhroseddol sy’n ymdrin ag anghydfodau preifat rhwng unigolion neu gwmnïau. Er enghraifft, gallech hawlio iawndal am anaf personol, ymosodiad neu ddifrod i eiddo.
Dylech gael cyngor cyfreithiwr yn gyntaf, gan fod y broses yn fwy cymhleth. Caiff hawliadau sifil eu dwyn yn erbyn y sawl a gyflawnodd y drosedd ac mae costau yn gysylltiedig â hyn.
Budd-daliadau
Os ydych yn gwella ar ôl anafiadau difrifol, mae’n bosibl y gallwch hawlio budd-daliadau.
Os yw perthynas agos i chi wedi marw, efallai y gallwch hawlio budd-daliadau profedigaeth.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ynglŷn â budd-daliadau, gallwch wneud cais i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant.
Yswiriant
Efallai y gallwch wneud hawliad yswiriant:
- os yw eich yswiriant yn eich gwarchod rhag troseddau eiddo fel lladrad neu fandaliaeth
- os oes gan eich cyflogwr yswiriant sy’n gwarchod rhag anaf neu farwolaeth yn y gwaith
- os ydych yn gwybod pwy gyflawnodd y drosedd – efallai y gallwch wneud hawliad yn erbyn ei bolisi yswiriant
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad cwmni yswiriant, gallwch wneud cais i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad cyflogwr, gallwch siarad ag Acas.
Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.