Twyll


Gall twyll effeithio ar unrhyw un a gall ddigwydd bron iawn yn unrhyw le.
Riportio Twyll
- Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon gallwch riportio twyll i Action Fraud ar-lein neu drwy ffonio 0300 123 2040.
- Yn yr Alban, riportiwch twyll i Heddlu yr Alban drwy ffonio 101.
- Os ydych wedi colli arian, dywedwch wrth eich banc drwy gysylltu â nhw gan ddefnyddio rhif ffôn rydych yn ymddiried ynddo.
- Darllenwch fwy am sut i riportio twyll neu weithgaredd amheus.

Cymorth os ydych wedi dioddef twyll
Mae effaith twyll yn bellgyrhaeddol a gall gael effaith ariannol, ymarferol ac emosiynol arnoch chi. Pan fyddwch yn riportio twyll fe gynigir cymorth i chi i’ch helpu i ddelio â’r profiad. Gall hyn gynnwys gwybodaeth am y camau ymarferol y gallwch eu cymryd i geisio adfer unrhyw arian neu ddata rydych wedi’i golli a chymorth emosiynol. I gael mwy o wybodaeth am y sefydliadau a all eich helpu i ddod atoch eich hun yn dilyn bod yn ddioddefwr twyll, ewch i wefan: Stop! Think Fraud.

Amddiffyn eich hun rhag twyll
Gallwch helpu i amddiffyn chi eich hun a’r rhai o’ch cwmpas chi rhag dioddef twyll. Unwaith y byddwch yn ymwybodol o’r technegau y mae twyllwyr yn eu defnyddio’n aml a’r arwyddion y dylech edrych allan amdanynt, mae gennych fwy o siawns o’u hosgoi. I ddarllen mwy am sut i amddiffyn eich hun, ewch i wefan: Stop! Think Fraud.