Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on cym.victimandwitnessinformation.org.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Mynd i'r cynnwys Gadael y dudalen

Rwy’n berson ifanc sydd wedi dioddef trosedd 

Cymorth ychwanegol o’r dechrau

Os ydych dan 18 oed, mae llawer o ffyrdd o gael cymorth ar ôl trosedd. Mae hynny’n wir ar gyfer eich rhiant neu warcheidwad hefyd, cyn belled bod hynny’n eich helpu chi. 

Does dim rhaid i chi riportio’r drosedd i’r heddlu i gael y cymorth y mae arnoch ei angen. Chwiliwch am gymorth yn eich ardal chi.

Beth fydd yn digwydd os byddwch yn riportio trosedd

Pan fyddwch yn siarad â’r heddlu, gallwch gael rhywun gyda chi. Bydd angen i’r person hwnnw fod dros 18 oed.

Os ydych yn dyst i’r drosedd, mae’n bosibl y gofynnir i chi ddisgrifio beth ddigwyddodd mewn datganiad tyst. Gellir cofnodi hyn ar fideo, fel nad oes rhaid i chi ei ailadrodd yn y llys.

Bydd y swyddog ymchwilio yn rhoi gwybod i chi cyn pen 1 diwrnod gwaith beth sy’n digwydd gyda’r sawl sydd dan amheuaeth – er enghraifft, os yw’n cael mynd adref cyn mynd i’r llys.

Bydd y swyddog hwn hefyd yn rhoi eich manylion i wasanaeth cymorth lleol a all eich helpu i ddod atoch eich hun ar ôl y drosedd a datrys unrhyw faterion ymarferol i chi.

Os bydd eich achos yn mynd i’r llys

Os ydych yn cytuno, bydd yr heddlu yn rhannu eich manylion â’r Gwasanaeth Tystion, sydd wedi’i leoli yn y llys. Byddant yn cysylltu â chi cyn i’r treial ddechrau a gallant ateb eich cwestiynau ynglŷn â beth fydd yn digwydd. Gallwch fynd i’r llys i weld sut le sydd yno cyn y treial. Bydd y Gwasanaeth Tystion yn eich helpu drwy’r adeg nes bydd yr achos drosodd.

Os oes angen, byddwch hefyd yn cael cymorth ychwanegol i’ch helpu i roi eich tystiolaeth orau. Gallai hyn gynnwys rhoi tystiolaeth drwy gyswllt fideo byw fel nad oes rhaid i chi fod yn yr ystafell llys, neu gael rhywun a elwir yn gyfryngwr i’ch helpu i gyfathrebu â’r llys.

Mae fideos y gallwch eu gwylio sy’n egluro beth sy’n digwydd yn y llys, pwy fydd yn rhan o’r broses, a beth y bydd angen i chi ei wneud.

Ar ôl y treial

Efallai y gallwch ymuno â’r Cynllun Cyswllt Dioddefwyr. Os byddwch yn gwneud hynny, byddwch yn cael gwybod beth sy’n digwydd i’r troseddwr ar ôl iddo fynd i’r carchar.  

Gallwch hefyd roi eich barn am unrhyw reolau y bydd yn rhaid iddo eu dilyn pan ddaw allan o’r carchar, er enghraifft cadw draw o ble bynnag rydych chi’n byw.

Efallai y bydd eich rhiant neu warcheidwad yn cael yr wybodaeth hon. Gall eich rhiant neu warcheidwad wedyn benderfynu pa fanylion i’w rhannu gyda chi.

Geirfa 

Achos 

Pan fyddwch yn riportio trosedd i’r heddlu, cyfeirir at bopeth sy’n ymwneud â’r drosedd honno wedyn fel yr achos.  

Cyfryngwr

Person a all eich helpu i ddeall beth sy’n cael ei ddweud yn y llys. Gall hefyd helpu pobl eraill yn y llys i ddeall eich atebion i unrhyw gwestiynau.

Swyddog ymchwilio 

Y swyddog heddlu sy’n gyfrifol am eich achos a all roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr ymchwiliad. Gallwch ffonio 101 a rhoi eich cyfeirnod trosedd er mwyn cael siarad â’r swyddog priodol. 

Gwasanaeth Tystion 

Y bobl yn y llys sy’n rhoi cymorth ymarferol ac emosiynol i dystion. 

Datganiad tyst

Adroddiad ysgrifenedig neu wedi’i recordio o ffeithiau a manylion trosedd. 

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.