Aflonyddu a stelcio
Deall aflonyddu a stelcio
Mae aflonyddu yn golygu bod rhywun yn ymddwyn dro ar ôl tro mewn ffordd sy’n achosi braw neu drallod i chi, neu’n gwneud i chi ofni y byddant yn ymddwyn yn dreisgar tuag atoch. Gallai olygu:
- anfon negeseuon testun, e-bost neu negeseuon llais neu lythyrau neu anrhegion digroeso atoch
- gwneud bygythiadau ar-lein neu wyneb yn wyneb
- eich bwlio yn y gwaith neu yn yr ysgol
Mae stelcio yn cynnwys ymddygiad obsesiynol, digroeso, sy’n digwydd dro ar ôl tro. Gallai ddigwydd pan fydd rhywun yn eich dilyn chi droeon, yn ysbio arnoch neu’n gorfodi cyswllt â chi, gan gynnwys drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Gall stelcio hefyd gynnwys cyswllt digroeso wrth i’r person hwnnw ddod i’ch cartref yn ddirybudd.
Gall yr ymddygiad hwn fod yn frawychus iawn ac achosi llawer o ofid, ond mae llawer o sefydliadau a all helpu. Chwiliwch am gymorth yn eich ardal chi.
A yw’n drosedd?
Mae aflonyddu a stelcio yn droseddau, ond weithiau mae’n anodd gwybod pryd bydd rhywun yn aflonyddu arnoch neu’n eich stelcio. Mae’n bosibl na fydd un digwyddiad yn ymddangos yn arwyddocaol nes byddwch yn sylweddoli ei fod yn rhan o batrwm.
Os byddwch yn ffonio eich heddlu lleol, gallant asesu’r sefyllfa a gweld pa gymorth y gallant ei roi i chi, hyd yn oed os nad ydych yn barod i riportio’r drosedd eto.
Gallwch hefyd ddechrau cadw cofnod o’r hyn sydd wedi digwydd ac unrhyw beth a anfonwyd atoch. Bydd hyn yn helpu i ddangos nifer y digwyddiadau a’r effaith y maent wedi ei gael arnoch chi.
Gorchmynion amddiffyn
Os byddwch yn dweud wrth yr heddlu bod rhywun yn aflonyddu arnoch, byddant yn gwneud yn siŵr eich bod yn ddiogel. Gallai hyn gynnwys trefnu gorchmynion amddiffyn, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau.
Os yw’r sawl sy’n aflonyddu arnoch wedi cael ei erlyn a’i ddyfarnu’n euog, gall y llys wneud gorchymyn atal yn ei erbyn. Mae gorchmynion atal yn ddefnyddiol pan fyddwch chi a’r sawl sy’n aflonyddu arnoch yn adnabod eich gilydd. Maent yn eich amddiffyn rhag unrhyw gyswllt yn y dyfodol a allai achosi rhagor o ofn neu drallod i chi. Gall y llys hefyd roi gorchymyn atal os yw’r sawl sy’n aflonyddu arnoch yn cael ei ganfod yn ddieuog, ond lle mae’n amlwg bod angen eich amddiffyn o hyd.
Mae gorchmynion atal yn para am 12 mis fel arfer ond gallent fod yn hwy neu’n amhenodol mewn rhai amgylchiadau. Mae torri gorchymyn atal yn drosedd a gallai arwain at gosb o hyd at 5 mlynedd o garchar.
Gallai gorchymyn rhag molestu hefyd fod yn berthnasol i rai achosion o aflonyddu. Os ydych yn ddioddefwr aflonyddu a bod y sawl sy’n aflonyddu arnoch yn digwydd bod yn byw gyda chi, mewn perthynas â chi, neu’n aelod o’r teulu, gallwch ofyn i’r llys teulu am orchymyn rhag molestu. Ni fydd yr heddlu yn ymyrryd oni bai fod y sawl sy’n aflonyddu arnoch yn torri’r gorchymyn. Os hynny, gall yr heddlu arestio’r sawl sy’n aflonyddu a gallai gael ei gyhuddo, a wynebu cosb o hyd at 5 mlynedd o garchar.
Os ydych yn cael eich stelcio, mae’n bosibl y gall yr heddlu wneud cais am orchymyn amddiffyn rhag stelcio er mwyn eich amddiffyn. Gallai hyn atal y sawl sy’n eich stelcio rhag cysylltu â chi neu wneud iddynt newid eu hymddygiad.
Ar ôl riportio aflonyddu neu stelcio
Os ydych wedi cael eich targedu’n barhaus, mae gennych hawl i gymorth ychwanegol gan yr heddlu, llysoedd a gwasanaethau dioddefwyr. Gallai hyn gynnwys:
- trefnu bod gwasanaeth cymorth arbenigol yn cysylltu â chi
- rhoi gwybod i chi cyn pen 1 diwrnod gwaith beth sy’n digwydd gyda’r sawl sydd dan amheuaeth – er enghraifft, os yw’n cael ei ryddhau ar fechnïaeth
- rhoi gwybod i chi am fesurau arbennig a allai eich helpu i roi tystiolaeth mewn llys
Gallwch ddarllen mwy am eich hawliau yn y Cod Dioddefwyr.
Geirfa
Mesurau arbennig
Y cymorth ychwanegol y gall llys ei roi i helpu tystion bregus neu sydd wedi eu brawychu i roi eu tystiolaeth orau. Gallai’r mesurau hyn gynnwys rhoi sgriniau o amgylch y blwch tystion.
Cod Dioddefwyr
Mae’r Cod Dioddefwyr yn esbonio’r hawliau y gall pawb ddisgwyl eu cael fel dioddefwr trosedd. Mae fersiynau gwahanol ar gael, gan gynnwys taflenni, llyfryn hawdd ei ddeall, a’r cod llawn yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.