Mynd i'r cynnwys Gadael y dudalen

Cael cymorth cyn treial

Mae’n naturiol i deimlo’n bryderus neu’n nerfus cyn treial, ond gallwch gael llawer o gymorth ymarferol ac emosiynol gan y Gwasanaeth Tystion. Gallant: 

  • roi cyngor annibynnol, diduedd a chyfrinachol i chi 
  • rhoi gwybod i chi am brosesau a chynllun y llys 
  • trefnu i chi ymweld â’r llys cyn i’r treial ddechrau, fel y byddwch yn gwybod beth i’w ddisgwyl 
  • darparu unrhyw gymorth ymarferol y bydd arnoch ei angen yn y llys  
  • eich helpu i ymdopi ag unrhyw orbryder a achosir gan y llys 

Ni all y Gwasanaeth Tystion roi cyngor cyfreithiol i chi na thrafod manylion penodol y treial. Ond byddant yno ar gyfer unrhyw gymorth y bydd arnoch ei angen drwy gydol y treial. 

I siarad â’r Gwasanaeth Tystion cyn i chi fynd i’r llys, ffoniwch 0300 332 1000 neu llenwch ffurflen atgyfeirio. Dylent gysylltu â chi cyn pen 2 ddiwrnod gwaith. Mae gan y Gwasanaeth Tystion hefyd wirfoddolwyr y gallwch siarad â nhw ar ddiwrnod y treial ym mhob Llys y Goron a llys ynadon yng Nghymru a Lloegr. 

Os ydych yn byw yn Llundain ac yn rhoi tystiolaeth mewn llys yn Llundain, gallwch gael cefnogaeth cyn treial gan Wasanaeth Dioddefwyr a Thystion Llundain drwy ffonio 0808 168 9291.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Darganfyddwch fwy am baratoi i fynd i’r llys.

Geirfa

Llys y Goron 

Mae’r llys hwn fel arfer yn ymdrin â’r troseddau mwyaf difrifol. Gan amlaf mae ganddo reithgor a fydd yn penderfynu a yw’r person sydd dan amheuaeth yn euog, a barnwr a fydd yn penderfynu ynglŷn â’r ddedfryd.  

Llys ynadon 

Mae’r llys hwn yn gwrando’r rhan fwyaf o achosion troseddol ac eithrio’r rhai mwyaf difrifol. Gwneir penderfyniadau gan farnwr rhanbarth neu 2 neu dri ynad gwirfoddol. Nid oes rheithgor.  

Gwasanaeth Tystion 

Y bobl yn y llys sy’n rhoi cymorth ymarferol ac emosiynol i dystion. 

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.