Paratoi i fynd i’r llys
Mae’r Uned Gofal Tystion yn darparu gwybodaeth a chymorth i ddioddefwyr a thystion, a bydd yr heddlu yn dweud wrthych beth yw enw’r uned a fydd yn cael ei phennu ar gyfer eich achos chi. Bydd yr uned yn cysylltu er mwyn:
- gwneud yn siŵr eich bod yn rhoi eich tystiolaeth orau yn y treial
- dweud wrthych ble a phryd y caiff y treial ei gynnal
- eich helpu i gyrraedd y treial a rhoi tystiolaeth, gan gynnwys trefnu gofal plant neu gludiant
Os ydych wedi rhoi datganiad, byddwch yn gallu ei weld eto cyn i chi roi tystiolaeth, er mwyn i chi allu cofio beth rydych wedi ei ddweud.
Os ydych yn berthynas agos i rywun sydd wedi cael ei ladd o ganlyniad i drosedd, gallwch ofyn am gael cyfarfod cyfreithiwr Gwasanaeth Erlyn y Goron a darganfod beth allai ddigwydd yn y treial. Efallai y gallwch ei gyfarfod hefyd os ydych yn mynd i’r llys fel tyst.
Bydd y canllawiau fideo hyn yn eich helpu i ddeall y broses a beth i’w ddisgwyl wrth baratoi i fynd i lys neu dribiwnlys. Mae cyfieithiadau BSL ar gael hefyd.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Darllenwch fwy am fynd i’r llys ar ddiwrnod y treial.
Geirfa
Gwasanaeth Erlyn y Goron
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cyflwyno achosion troseddol yn y llys ar ôl i’r heddlu ymchwilio iddynt.
Uned Gofal Tystion
Mae’r Uned Gofal Tystion yn disgrifio swyddogaeth sy’n cael ei harwain gan yr heddlu sy’n darparu gwybodaeth a chymorth i ddioddefwyr a thystion mewn achosion sy’n mynd drwy’r system cyfiawnder troseddol. Mae’n bosibl y bydd gan yr uned hon enw gwahanol yn eich ardal leol chi.
Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.