Mynd i’r llys
Os ydych yn cytuno, bydd yr heddlu yn trosglwyddo eich manylion i’r Gwasanaeth Tystion a fydd yn rhoi cymorth a chefnogaeth rhad ac am ddim i chi cyn ac yn ystod y treial.
Bydd rhywun o’r Gwasanaeth Tystion yno i’ch cyfarfod pan fyddwch yn cyrraedd y llys. Byddant yn mynd gyda chi pan fyddwch yn rhoi tystiolaeth ac yn eich cefnogi drwy gydol y diwrnod.
Mynd i’r treial
Lle bo modd, gallwch ofyn i staff y llys adael i chi fynd i mewn i’r llys drwy fynedfa wahanol i’r diffynnydd ac eistedd mewn man arall, ar wahân i ffrindiau a theulu’r diffynnydd.
Nid oes gan bob llys fynedfeydd neu fannau aros ar wahân i ddioddefwyr a thystion. Ond os gwnewch chi roi gwybod iddyn nhw ymlaen llaw, bydd staff y llys yn gwneud yn siŵr eich bod yn teimlo’n ddiogel ac nad oes rhaid i chi weld y diffynnydd pan fyddwch yn cyrraedd.
Os ydych yn dyst, ni fyddwch yn gallu gwylio’r treial nes byddwch wedi rhoi tystiolaeth. Os nad ydych yn dyst, gallwch fynd i’r treial o’r dechrau un. Gadewch i staff y llys wybod eich bod yno.
Beth ddylech chi ei wneud os ydych yn mynd i’r llys
- Gofynnwch am gymorth a chefnogaeth rhad ac am ddim gan y Gwasanaeth Tystion – naill ai yn y llys ar ddiwrnod y treial, neu drwy ffonio 0300 332 1000 o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn y treial. Os ydych yn byw yn Llundain ac y byddwch yn rhoi tystiolaeth mewn llys yn Llundain, ffoniwch Wasanaeth Dioddefwyr a Thystion Llundain ar 0808 168 9291.
- Dywedwch wrth yr Uned Gofal Tystion os ydych yn teimlo’n fregus neu os ydych yn meddwl y gallai fod arnoch angen mesurau arbennig yn y llys.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â phethau gyda chi i helpu i ladd amser, er enghraifft llyfrau neu glustffonau, rhag ofn y bydd yn rhaid i chi aros ar ddiwrnod y treial.
- Gofynnwch i gynrychiolydd Gwasanaeth Erlyn y Goron am ffurflen os oes arnoch eisiau hawlio costau.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Darllenwch fwy am y mesurau arbennig y gallech eu cael yn y llys.
Geirfa
Gwasanaeth Erlyn y Goron
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cyflwyno achosion troseddol yn y llys ar ôl i’r heddlu ymchwilio iddynt.
Diffynnydd
Y person sydd wedi’i gyhuddo o gyflawni trosedd.
Mesurau arbennig
Y cymorth ychwanegol y gall llys ei roi i helpu tystion bregus neu sydd wedi eu brawychu i roi eu tystiolaeth orau. Gallai’r mesurau hyn gynnwys rhoi sgriniau o amgylch y blwch tystion.
Uned Gofal Tystion
Mae’r Uned Gofal Tystion yn disgrifio swyddogaeth sy’n cael ei harwain gan yr heddlu sy’n darparu gwybodaeth a chymorth i ddioddefwyr a thystion mewn achosion sy’n mynd drwy’r system cyfiawnder troseddol. Mae’n bosibl y bydd gan yr uned hon enw gwahanol yn eich ardal leol chi.
Gwasanaeth Tystion
Y bobl yn y llys sy’n rhoi cymorth ymarferol ac emosiynol i dystion.
Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.