Mesurau arbennig


Gall rhoi tystiolaeth yn y llys fod yn brofiad brawychus iawn, yn enwedig os ydych yn ddioddefwr neu dyst bregus neu os ydych wedi cael eich brawychu. Efallai y bydd y llys yn penderfynu rhoi cymorth ac amddiffyniad ychwanegol i chi mewn gwahanol ffyrdd. Gelwir y rhain yn ‘fesurau arbennig’ ac maent yn cynnwys y canlynol:
- gosod sgriniau neu lenni o’ch cwmpas yn yr ystafell llys fel nad ydych yn gallu gweld y diffynnydd
- rhoi tystiolaeth drwy gyswllt fideo byw, fel nad oes rhaid i chi eistedd yn yr ystafell llys
- gwneud recordiad fideo o’ch cyfweliad fel bod modd ei chwarae yn yr ystafell llys
- gwneud recordiad fideo o’ch croesholiad ymlaen llaw a’i chwarae i’r ystafell llys fel nad oes rhaid i chi fynd i’r treial
- gofyn i’r cyhoedd adael yr ystafell llys tra byddwch yn rhoi tystiolaeth
- gofyn i’r barnwr a’r bargyfreithwyr dynnu eu perwigau a’u gynau i wneud y broses yn llai brawychus
- cael cymorth arbenigol i ddeall cwestiynau a chyfathrebu atebion drwy gyfryngwyr cofrestredig
- cymhorthion cyfathrebu ychwanegol megis cyfrifiaduron, syntheseiswyr llais, byrddau symbol a llyfrau
Gellir hefyd defnyddio mesurau arbennig gyda’i gilydd. Er enghraifft, efallai y caniateir i chi roi tystiolaeth drwy gyswllt fideo byw a bod yna lenni rhwng y sgrin a’r diffynnydd fel na allant eich gweld chi ar y sgrin.
Nid yw mesurau arbennig ar gael yn awtomatig i bawb. Efallai y bydd y llys yn penderfynu bod eu hangen:
- os ydych dan 18 oed
- os oes gennych anabledd corfforol neu iechyd meddwl neu gyflwr a fyddai’n effeithio ar eich gallu i roi eich tystiolaeth orau yn y llys (gallai hyn gynnwys anawsterau dysgu neu anawsterau gweithredu cymdeithasol)
- os ydych yn dioddef o ofn neu drallod mewn cysylltiad â rhoi tystiolaeth yn yr achos
- os ydych yn ddioddefwr neu’n dyst i droseddau rhyw, caethwasiaeth fodern, cam-drin domestig neu droseddau penodol yn ymwneud â gynnau a chyllyll
- os ydych yn ddioddefwr neu’n dyst i drosedd ddifrifol (er enghraifft, llofruddiaeth neu ymosodiad terfysgol)
Bydd yr heddlu yn siarad â chi ynghylch pa fesurau arbennig fyddai’n eich helpu i roi eich tystiolaeth. Byddant yn rhoi gwybod i Wasanaeth Erlyn y Goron (GEG) pa fesurau arbennig sydd wedi’u dewis a pham.
Bydd GEG yn gwneud cais i’r llys am ganiatâd i ddefnyddio mesurau arbennig ac yn egluro i’r barnwr pam eu bod yn meddwl y byddant yn eich helpu i roi eich tystiolaeth orau.
Yna bydd y barnwr yn penderfynu pa fesurau arbennig i’w cymeradwyo.
Bydd yr heddlu yn rhoi gwybod i chi beth mae’r barnwr wedi’i benderfynu ac yn egluro i chi sut fydd y mesurau arbennig yn cael eu defnyddio yn y llys.

Beth fydd yn digwydd nesaf
Darllenwch am y llys yn cytuno ar reithfarn a dedfrydu.
Geirfa
Cyfryngwr
Person a all eich helpu i ddeall beth sy’n cael ei ddweud yn y llys. Gall hefyd helpu pobl eraill yn y llys i ddeall eich atebion i unrhyw gwestiynau.
Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.