Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on cym.victimandwitnessinformation.org.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Mynd i'r cynnwys Gadael y dudalen

Cytuno ar reithfarn a dedfrydu

Os caiff y diffynnydd ei ganfod yn euog, bydd y barnwr neu’r ynadon yn penderfynu ynglŷn â’i ddedfryd. 

Gallai’r diffynnydd ddewis pledio’n euog ar y munud olaf. Gall hyn fod yn rhwystredig os ydych wedi paratoi i roi tystiolaeth, ond mae’n golygu bod y diffynnydd yn derbyn cyfrifoldeb ac y bydd yn cael ei ddedfrydu. 

Os caiff y diffynnydd ei ganfod yn ddieuog (‘rhyddfarnu’), mae’n bosibl y caiff adael y llys.  

Bydd yr Uned Gofal Tystion neu’r swyddog ymchwilio yn dweud wrthych beth yw canlyniad y treial cyn pen 1 diwrnod gwaith ar ôl cael ei hysbysu gan y llys. 

Os nad ydynt yn gallu ateb eich holl gwestiynau ynglŷn â’r ddedfryd, dylent eich rhoi mewn cysylltiad â Gwasanaeth Erlyn y Goron, a fydd yn gallu helpu. Gallant eich cyfeirio at wasanaethau dioddefwyr i gael rhagor o gymorth os oes angen. 

Beth fydd yn digwydd nesaf

Darllenwch fwy am sut i hawlio costau am roi tystiolaeth yn y treial.

Geirfa

Rhyddfarnu 

Pan fydd rhywun sydd wedi ei gyhuddo o drosedd yn cael ei ganfod yn ddieuog gan lys. 

Gwasanaeth Erlyn y Goron 

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cyflwyno achosion troseddol yn y llys ar ôl i’r heddlu ymchwilio iddynt. 

Diffynnydd 

Y person sydd wedi’i gyhuddo o gyflawni trosedd. 

Swyddog ymchwilio 

Y swyddog heddlu sy’n gyfrifol am eich achos a all roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr ymchwiliad. Gallwch ffonio 101 a rhoi eich cyfeirnod trosedd er mwyn cael siarad â’r swyddog priodol. 

Uned Gofal Tystion 

Mae’r Uned Gofal Tystion yn disgrifio swyddogaeth sy’n cael ei harwain gan yr heddlu sy’n darparu gwybodaeth a chymorth i ddioddefwyr a thystion mewn achosion sy’n mynd drwy’r system cyfiawnder troseddol. Mae’n bosibl y bydd gan yr uned hon enw gwahanol yn eich ardal leol chi.

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.