Mynd i'r cynnwys Gadael y dudalen

Ymosodiadau corfforol neu fygythiadau

Cael cymorth yn gyflym 

Mae ymosodiad corfforol neu fygythiad i’ch brifo yn drosedd. Gallai hyn hefyd gynnwys cam-drin domestig os ydych yn adnabod y person a ymosododd arnoch, neu drosedd casineb os yw’r ymosodiad wedi’i gymell gan ragfarn.

  • Os yw ymosodiad yn digwydd neu os yw newydd ddigwydd, ffoniwch 999 i gael sylw meddygol brys a chymorth mewn argyfwng.
  • Os nad yw’n argyfwng, ffoniwch yr heddlu ar 101, riportiwch ar-lein neu ewch i orsaf heddlu.
  • Os oes arnoch angen cymorth meddygol ond nid yw’n argyfwng, ffoniwch 111.

Os oes arnoch angen cymorth meddygol ond nad yw’n argyfwng, ffoniwch 111.

Cael help i ddod atoch eich hun 

Os yw rhywun yn ymosod arnoch neu’n eich bygwth gall fod yn brofiad brawychus iawn. Efallai y byddwch yn teimlo ei bod yn anodd dod atoch eich hun yn emosiynol, yn gorfforol ac yn ymarferol.

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun, ac mae llawer o sefydliadau a all eich cefnogi.  Chwiliwch am gymorth yn eich ardal chi.

Ar ôl riportio ymosodiad 

Os ydych wedi cael eich anafu’n ddifrifol neu os ydych yn ddioddefwr ymgais i lofruddio, mae gennych hawl i gael cymorth ychwanegol gan yr heddlu, llysoedd a gwasanaethau dioddefwyr. Gallai hyn gynnwys:

  • cael gwasanaeth cymorth arbenigol i gysylltu â chi
  • cael eich cyfeirio at rywun a all eich helpu i ddod atoch eich hun, drwy gwnsela neu therapi
  • rhoi gwybod i chi am fesurau arbennig a allai eich helpu i roi tystiolaeth mewn llys

Gallwch ddarllen mwy am eich hawliau yn y  Cod Dioddefwyr.

Geirfa 

Mesurau arbennig 

Y cymorth ychwanegol y gall llys ei roi i helpu tystion bregus neu sydd wedi eu brawychu i roi eu tystiolaeth orau. Gallai’r mesurau hyn gynnwys rhoi sgriniau o amgylch y blwch tystion. 

Cod Dioddefwyr

Mae’r Cod Dioddefwyr yn esbonio’r hawliau y gall pawb ddisgwyl eu cael fel dioddefwr trosedd. Mae fersiynau gwahanol ar gael, gan gynnwys taflenni, llyfryn hawdd ei ddeall, a’r cod llawn yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.