Mae perthynas agos i mi wedi cael ei ladd


Gall colli perthynas agos yn sydyn, drwy drais, fod yn anodd iawn i’w dderbyn. Yn aml iawn byd problemau ymarferol yn codi hefyd.
Os oedd yn ddioddefwr llofruddiaeth neu ddynladdiad
Bydd yr heddlu’n penodi swyddog cyswllt teulu i ymchwilio i’r drosedd a rhoi cymorth i chi a’ch teulu. Gyda’ch caniatâd chi, byddant hefyd yn eich cyfeirio at y Gwasanaeth Lladdiadau Cenedlaethol a all:
- eich helpu gyda materion brys, er enghraifft cael mynediad at gymorth ariannol
- darparu cymorth drwy wasanaethau partner gan gynnwys cwnsela yn dilyn profedigaeth a/neu drawma, cyngor ar ddyledion, cyngor cyfreithiol a chyngor ar faterion tai
- eich helpu i ddefnyddio a gwybod beth i’w ddisgwyl o’r system gyfiawnder troseddol
- cynnig cymorth gan bobl sydd wedi bod drwy’r un profiad

Os oedd yn ddioddefwr trosedd ffordd
Bydd yr heddlu yn rhoi pecyn gwybodaeth i chi ac yn eich rhoi mewn cysylltiad â Brake, elusen genedlaethol diogelwch ar y ffordd.
Gallwch ffonio llinell gymorth Brake yn uniongyrchol ar 0808 8000 401.

Cymorth ychwanegol drwy’r broses droseddol
Bydd gennych hawl i gymorth gan sefydliadau fel yr heddlu a’r llysoedd fel y nodir yn y Cod i Ddioddefwyr. Mae hynny’n golygu y gallwch:
- wneud Datganiad Personol Dioddefwr fel bod y llys yn deall sut mae’r drosedd wedi effeithio arnoch chi
- cael gwybod beth sy’n digwydd gyda’r sawl sydd dan amheuaeth cyn pen 1 diwrnod gwaith ar ôl i benderfyniad gael ei wneud
- cyfarfod y cyfreithiwr o Wasanaeth Erlyn y Goron cyn ac ar ôl i’r achos gael ei gyflwyno yn y llys
- ymuno â’r Cynllun Cyswllt Dioddefwyr, os bydd y troseddwr yn mynd i’r carchar am 12 mis neu fwy
Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.