Cam-drin domestig
Deall cam-drin domestig
Gall unrhyw un fod yn ddioddefwr cam-drin domestig, beth bynnag ei ryw, rhywedd, oed, ethnigrwydd, statws economaidd-gymdeithasol, rhywioldeb neu gefndir. Gall cam-drin domestig fod yn:
- seicolegol neu’n emosiynol
- corfforol
- ymddygiad treisgar neu fygythiol
- rhywiol
- economaidd neu ariannol
- ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi
- ar-lein neu ddigidol
- stelcio
Nid dim ond rhwng partneriaid sy’n byw gyda’i gilydd y mae cam-drin domestig yn digwydd. Gallai ddigwydd rhwng aelodau o deulu neu bobl sy’n byw ar wahân.
Beth allwch chi ei wneud os yw’n digwydd i chi
Os ydych yn profi cam-drin domestig, mae’n bwysig cofio nad oes bai arnoch chi. Mae help ar gael, a byddwch bob amser yn cael eich trin â charedigrwydd a pharch.
- Ceisiwch siarad â rhywun rydych yn ymddiried ynddo. Gall hyn fod yn anodd iawn, ond gall dweud wrth rywun eich helpu i wneud penderfyniadau pwysig a chael mwy o gymorth os oes arnoch ei angen.
- Cysylltwch â’r Llinell Cam-drin Domestig Genedlaethol ar 0808 2000 247. Gallant wrando a rhoi cyngor cyfrinachol i chi am beth bynnag y mae arnoch ei angen – boed yn gymorth emosiynol neu help â phethau ymarferol, fel materion tai a budd-daliadau. Os oes arnoch angen dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain neu os byddai’n well gennych siarad â rhywun ar-lein, ewch i www.nationaldahelpline.org.uk. Darllenwch fwy am sut i gael help ar gyfer cam-drin domestig.
- Rhowch wybod i’r heddlu am y gamdriniaeth. Byddant yn cymryd y mater o ddifrif a byddant yn gallu eich diogelu. Mewn argyfwng ffoniwch 999. Os nad yw’n argyfwng, gallwch eu ffonio ar 101, riportio ar-lein neu fynd i orsaf heddlu leol.
Beth i’w wneud os ydych yn meddwl bod rhywun yn cael ei frifo
Ceisiwch siarad â’r person am ei sefyllfa. Gofynnwch a yw’n iawn, cynigiwch gefnogaeth a gadewch iddo ef neu hi wybod nad yw ymddygiad o’r fath yn dderbyniol. Gallwch hefyd ysgrifennu beth rydych wedi ei weld a chynnig helpu i’w riportio.
Gallech gysylltu â’r Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Genedlaethol ar 0808 2000 247 i ofyn am gyngor. Gallwch hefyd siarad â’r heddlu drwy ffonio 101, neu drwy ffonio 999 os yw’n argyfwng.
Darllenwch fwy am sut i helpu rhywun a allai fod yn ddioddefwr cam-drin domestig.
Ar ôl riportio cam-drin domestig
Fel dioddefwr trosedd ddifrifol, mae gennych hawl i gymorth ychwanegol gan yr heddlu, y llysoedd a gwasanaethau dioddefwyr. Gallai hyn gynnwys:
- trefnu bod gwasanaeth cymorth arbenigol yn cysylltu â chi
- rhoi gwybod i chi am fesurau arbennig a allai eich helpu i roi tystiolaeth mewn llys
Gallwch ddarllen mwy am eich hawliau yn y Cod Dioddefwyr.
Gwaharddebau argyfwng
Gan ddibynnu ar amgylchiadau eich camdriniaeth, mae’n bosibl y bydd yr heddlu’n gallu gwneud cais am amodau mechnïaeth gan y llys a gorchymyn amddiffyn i roi rhagor o ddiogelwch i chi, er enghraifft gorchymyn amddiffyn rhag trais domestig neu orchymyn amddiffyn rhag stelcio.
Mae’n bosibl hefyd y gallwch wneud cais am orchymyn rhag molestu yn uniongyrchol i’r llys teulu.
Darllenwch fwy am waharddebau argyfwng.
Geirfa
Mesurau arbennig
Y cymorth ychwanegol y gall llys ei roi i helpu tystion bregus neu sydd wedi eu brawychu i roi eu tystiolaeth orau. Gallai’r mesurau hyn gynnwys rhoi sgriniau o amgylch y blwch tystion.
Cod Dioddefwyr
Mae’r Cod Dioddefwyr yn esbonio’r hawliau y gall pawb ddisgwyl eu cael fel dioddefwr trosedd. Mae fersiynau gwahanol ar gael, gan gynnwys taflenni, llyfryn hawdd ei ddeall, a’r cod llawn yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.