Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on cym.victimandwitnessinformation.org.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Mynd i'r cynnwys Gadael y dudalen

Troseddau casineb

Beth yw trosedd casineb? 

Mae trosedd casineb yn golygu unrhyw drosedd sy’n cael ei chymell gan elyniaeth neu ragfarn, neu lle dangosir gelyniaeth, tuag at eich: 

  • crefydd (neu ddiffyg cred grefyddol)
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • anabledd
  • hunaniaeth drawsryweddol
  • hil neu ethnigrwydd

Mae troseddau casineb yn anghyfreithlon ac ni ellir eu cyfiawnhau. Gallent gynnwys cam-drin geiriol, aflonyddu, trais a difrod i eiddo.

Cael cymorth emosiynol ac ymarferol

Os byddwch yn profi rhywbeth sydd yn eich barn chi yn drosedd casineb, mae’n bwysig cofio nad oes bai arnoch chi. Gall troseddau casineb fod yn frawychus iawn, yn enwedig os ydynt yn gysylltiedig â phwy ydych chi. Mae cymorth ar gael a gall helpu i siarad â rhywun sy’n deall.

Dod o hyd i sefydliadau a all eich cefnogi ar ôl trosedd casineb.

Riportio trosedd casineb

Mae’r heddlu’n cymryd troseddau casineb o ddifrif. Byddant yn eich credu ac yn eich trin â charedigrwydd, gan fod riportio’r troseddau hyn yn gwneud gwahaniaeth – i chi, eich ffrindiau, eich teulu a’ch cymuned.

Gallwch riportio trosedd casineb os ydych yn ddioddefwr neu’n dyst.

  • Os yw’n argyfwng, ffoniwch 999. Fel arall, gallwch ffonio’r heddlu ar 101 neu riportio ar-lein.
  • Gallwch ofyn i wasanaeth cymorth i ddioddefwyr riportio’r drosedd ar eich rhan. Cyfeirir at hyn fel adroddiad trydydd parti. Gallwch benderfynu a ydych am i’r gwasanaethau hyn beidio â datgelu pwy ydych chi ynteu rannu eich manylion â’r heddlu.

I helpu’r heddlu i ymchwilio i’ch achos, ceisiwch gofio beth ddigwyddodd a chadwch unrhyw dystiolaeth. Dylech nodi:

  • beth y gwnaethoch chi ei brofi, ei weld neu ei glywed cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad
  • dyddiad ac amser y digwyddiad
  • lleoliad y digwyddiad

Gallai tystiolaeth gynnwys:

  • sgrinluniau cyfrifiadurol
  • fideos teledu cylch cyfyng
  • ffotograffau
  • eitemau a allai gynnwys olion bysedd neu dystiolaeth DNA

Weithiau, mae’n bosibl na fydd un digwyddiad yn ymddangos yn ddigon arwyddocaol i roi gwybod amdano. Ond gall nifer o ddigwyddiadau grynhoi dros gyfnod, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw cofnod o bob digwyddiad rydych wedi ei brofi neu wedi bod yn dyst iddo.

Ar ôl ei riportio i’r heddlu

Ar ôl i chi riportio trosedd casineb i’r heddlu, byddant yn dechrau ymchwiliad.

Mae’n bosibl y gofynnir i chi roi datganiad. Gallwch wneud hyn mewn gorsaf heddlu neu gartref os ydych yn teimlo’n fwy cyfforddus. Mae’n bosibl y defnyddir eich datganiad yn nes ymlaen mewn llys os bydd yr achos yn mynd i dreial, felly ceisiwch gynnwys cymaint o wybodaeth gywir ag y gallwch.

Ar ôl i’r heddlu ymchwilio, byddant yn penderfynu a ddylid anfon yr achos at Wasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer penderfyniad ynglŷn â chyhuddo. Gallai eich achos fynd i’r llys wedyn ar gyfer treial.

Fel dioddefwr trosedd ddifrifol, mae gennych hawl i gymorth ychwanegol gan yr heddlu, llysoedd a gwasanaethau dioddefwyr. Gallai hyn gynnwys:

  • trefnu bod gwasanaeth cymorth arbenigol yn cysylltu â chi
  • rhoi gwybod i chi cyn pen 1 diwrnod gwaith beth sy’n digwydd gyda’r sawl sydd dan amheuaeth – er enghraifft, os yw’n cael ei ryddhau ar fechnïaeth
  • rhoi gwybod i chi am fesurau arbennig a allai eich helpu i roi tystiolaeth mewn llys

Gallwch ddarllen mwy am eich hawliau yn y Cod Dioddefwyr.

Geirfa

Gwasanaeth Erlyn y Goron

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cyflwyno achosion troseddol yn y llys ar ôl i’r heddlu ymchwilio iddynt. 

Mesurau arbennig

Y cymorth ychwanegol y gall llys ei roi i helpu tystion bregus neu sydd wedi eu brawychu i roi eu tystiolaeth orau. Gallai’r mesurau hyn gynnwys rhoi sgriniau o amgylch y blwch tystion.

Cod Dioddefwyr

Mae’r Cod Dioddefwyr yn esbonio’r hawliau y gall pawb ddisgwyl eu cael fel dioddefwr trosedd. Mae fersiynau gwahanol ar gael, gan gynnwys taflenni, llyfryn hawdd ei ddeall, a’r cod llawn yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.