Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on cym.victimandwitnessinformation.org.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Mynd i'r cynnwys Gadael y dudalen

Rwy’n rhiant dioddefwr neu dyst ifanc

Os ydych yn rhiant, yn ofalwr neu’n warcheidwad plentyn sydd wedi profi trosedd, neu sydd wedi bod yn dyst i drosedd, efallai y bydd angen i chi eu cynorthwyo i roi tystiolaeth yn y llys. Mae fideos y gallwch eu dangos i’ch plentyn sy’n egluro beth sy’n digwydd mewn llys, pwy fydd yn ymwneud â’r broses, a beth y disgwylir i’r plentyn ei wneud.

Gallai gwylio’r fideos hyn gyda’ch gilydd helpu i leihau pryder eich plentyn ynglŷn â mynd i’r llys. Ond ni ddylech hyfforddi’r plentyn nac ymarfer y dystiolaeth y mae’n mynd i’w rhoi, oherwydd gallai hyn effeithio ar yr achos. Siaradwch â’r swyddog ymchwilio sy’n eich cefnogi yn eich achos os oes gennych unrhyw bryderon

Cwestiynau cyffredin am y bobl a’r prosesau mewn llys

Beth mae’r Gwasanaeth Tystion yn ei wneud? 

Mae’r Gwasanaeth Tystion yn helpu tystion i deimlo’n hyderus ac yn barod i roi eu tystiolaeth.

Maent yn darparu sesiynau paratoi wedi’u teilwra ac ymweliadau ymlaen llaw â’r llys, er mwyn i chi a’ch plentyn wybod beth i’w ddisgwyl. Byddant hefyd yn eich cynorthwyo chi a’ch plentyn yn y llys ar ddiwrnod y gwrandawiad. Os oes gan eich plentyn gyfryngwr, byddant yn gweithio mewn partneriaeth â’r cyfryngwr.

Os ydych yn byw yn ardal Llundain, gall Gwasanaeth Dioddefwyr a Thystion Llundain eich helpu i baratoi cyn gwrandawiadau

Beth mae cyfryngwr yn ei wneud?

Mae cyfryngwyr yn arbenigwyr cyfathrebu. Eu gwaith yw helpu plant i roi eu tystiolaeth orau yn ystod cyfweliadau’r heddlu neu yn y llys.

Bydd cyfryngwyr yn cyfarfod eich plentyn er mwyn dod i’w adnabod a dod i wybod beth fydd yn ei helpu i ymlacio, cyfathrebu’n dda a deall cwestiynau’r cyfreithwyr. Mae’n bosibl y bydd eich plentyn wedi cyfarfod cyfryngwr yn barod pan gafodd ei gyfweld gan yr heddlu.

Gall cyfryngwyr helpu pan fydd eich plentyn:

  • yn ymweld â’r llys
  • yn gwylio ei gyfweliad fideo
  • yn ateb cwestiynau’r cyfreithwyr yn ystod y gwrandawiad wedi’i recordio ymlaen llaw

Nid yw cyfryngwyr yn rhan o dimau’r erlyniad na’r amddiffyniad. Maent yn ddiduedd ac yn cael eu penodi gan y llys. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyfryngwyr, dylech holi’r swyddog ymchwilio sy’n ymwneud â’r achos.

Faint o amser fydd y gwrandawiad yn ei gymryd?

Mae hyn yn dibynnu ar nifer y cwestiynau a ofynnir gan y cyfreithwyr ac a oes ar eich plentyn angen egwylion tŷ bach wrth roi tystiolaeth. Bydd y barnwr yn ceisio cadw unrhyw wrandawiad y mae plentyn yn un o’r tystion ynddo mor fyr ag sy’n bosibl. Bydd y recordiad yn dechrau ar ôl i’r barnwr gyflwyno cyfreithwyr yr erlyniad a’r amddiffyniad. Ni fydd y recordiad yn stopio nes bydd pob cwestiwn wedi’i ofyn. Gellir golygu unrhyw egwylion tŷ bach yn ddiweddarach. Penderfyniad i’r barnwr a’r cyfreithwyr yw hwn.

A fydd fy mhlentyn yn cael cyfle i adolygu’r hyn a ddywedodd wrth yr heddlu?

Ychydig ddiwrnodau cyn y gwrandawiad, bydd eich plentyn yn cael cyfle i wylio’r cyfweliad fideo a roddodd i’r heddlu. Byddwch yn cael gwybod y dyddiad a gallwch godi unrhyw bryderon ynglŷn â hyn ymlaen llaw.

Ble fydd y recordio yn digwydd?

Bydd eich plentyn yn rhoi ei dystiolaeth mewn ystafell fideo naill ai yn adeilad y llys neu mewn safle arall.

Bydd cyfryngwr a thywysydd llys (neu weithiau berson o’r Gwasanaeth Tystion) yn yr ystafell fideo. Mae hyn yn sicrhau bod eich plentyn yn cael pob cefnogaeth drwy’r broses.

Cyn recordio, bydd y cyfreithwyr a’r barnwr yn cyflwyno eu hunain i chi a’ch plentyn. Mae’n bosibl y byddant yn tynnu eu perwigau a’u gynau i’ch helpu i ymlacio ychydig. Weithiau bydd hyn yn digwydd yn y man aros neu dros gyswllt fideo. Byddant yn parhau heb berwigau a gynau drwy gydol y gwrandawiad os yw eich plentyn yn dymuno.

Ble fydd y cyfreithwyr a’r diffynnydd?

Yn unol â’r gyfraith, pan fydd eich plentyn yn rhoi tystiolaeth, rhaid i’r cyfreithwyr a’r diffynnydd yn yr achos fod yn y llys o hyd. Bydd y cyfreithwyr ym mhrif ystafell y llys, a bydd y diffynnydd yn y doc. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod y treial yn deg a bod modd defnyddio tystiolaeth eich plentyn.

Mewn rhai amgylchiadau gellir cuddio’r sgrin fideo yn yr ystafell llys oddi wrth y diffynnydd, fel bod y diffynnydd yn gallu clywed y dystiolaeth ond nad yw’n gweld y plentyn ar y sgrin. Penderfyniad i’r barnwr yw hwn. Darllenwch fwy am y mesurau arbennig y gallai eich plentyn eu cael.

A fydd fy mhlentyn yn gweld y diffynnydd?

Yr unig rai y bydd eich plentyn yn eu gweld fydd y cyfreithwyr a fydd yn gofyn y cwestiynau a’r barnwr yn yr achos.

A fydd modd i mi aros gyda fy mhlentyn yn yr ystafell fideo?

Byddwch yn gallu eistedd gyda’ch plentyn yn y man aros yn ystafell y tystion, sydd ar wahân i’r ardaloedd cyhoeddus. Bydd y Gwasanaeth Tystion yn eich cynorthwyo chi a’ch plentyn cyn i’r gwrandawiad gael ei gynnal.

Ond nid oes gennych hawl i fynd i’r ystafell cyswllt fideo gyda’ch plentyn. Weithiau gallwch aros y tu allan, neu os nad ydych yn rhoi tystiolaeth eich hun, gallwch fynd i’r ystafell llys a gwylio’r gwrandawiad.

Beth fydd yn digwydd ar ôl y recordio?

Ar ôl y recordio, bydd y cyfreithwyr neu’r barnwr yn rhoi gwybod i chi pryd y gallwch adael y llys.

Bydd staff y llys yn rhannu’r recordiad gyda’r cyfreithwyr er mwyn iddynt allu ei adolygu cyn dyddiad y treial. Yn y treial, bydd staff y llys yn chwarae’r recordiad i’r rheithgor fel nad oes angen i’ch plentyn roi ei dystiolaeth yn bersonol. Ar ôl y treial, bydd y llys yn cadw’r recordiad mewn man storio diogel am gyfnod. Bydd yn cael ei ddileu pan nad oes ei angen mwyach ac ni fydd y cyfreithwyr sy’n rhan o’r achos yn gallu cael mynediad ato pan fydd 28 diwrnod wedi mynd heibio ar ôl y treial.

Pam recordio tystiolaeth fy mhlentyn ar gyfer y treial ymlaen llaw?

Weithiau bydd misoedd yn mynd heibio cyn cynnal treial. Gwyddom fod aros am dreial a rhoi tystiolaeth o flaen ystafell llys lawn yn rhoi llawer o bwysau ar eich plentyn. Gall recordio’r dystiolaeth cyn y treial helpu eich plentyn i deimlo dan lai o straen ac i gofio cymaint ag sy’n bosibl am yr hyn a ddywedodd wrth yr heddlu. Y llys fydd yn penderfynu a ddylid defnyddio’r mesur arbennig hwn, ond bydd yn ystyried eich barn chi a’ch plentyn.

Geirfa

Achos 

Pan fyddwch yn riportio trosedd i’r heddlu, cyfeirir at bopeth sy’n ymwneud â’r drosedd honno wedyn fel yr achos.

Cyfryngwr

Person a all eich helpu i ddeall beth sy’n cael ei ddweud yn y llys. Gall hefyd helpu pobl eraill yn y llys i ddeall eich atebion i unrhyw gwestiynau.

Swyddog ymchwilio 

Y swyddog heddlu sy’n gyfrifol am eich achos a all roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr ymchwiliad. Gallwch ffonio 101 a rhoi eich cyfeirnod trosedd er mwyn cael siarad â’r swyddog priodol. 

Mesurau arbennig

Y cymorth ychwanegol y gall llys ei roi i helpu tystion bregus neu sydd wedi eu brawychu i roi eu tystiolaeth orau. Gallai’r mesurau hyn gynnwys rhoi sgriniau o amgylch y blwch tystion. 

Gwasanaeth Tystion

Y bobl yn y llys sy’n rhoi cymorth ymarferol ac emosiynol i dystion.

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.