Eich hawliau yn ystod treial mewn llys
Mae gennych hawl i gael gwybod:
- amser, dyddiad a lleoliad gwrandawiadau llys
- canlyniad gwrandawiadau llys
Os gofynnir i chi roi tystiolaeth yn y llys, mae gennych hawl:
- i gael gwybod beth i’w ddisgwyl yn y llys a pha gymorth y gallai fod arnoch ei angen
- i gael cyfle i ymweld â’r llys cyn y gwrandawiad
- ar ôl hysbysu’r llys, i fynd i mewn drwy fynedfa wahanol i’r diffynnydd ac i eistedd mewn man aros ar wahân, os oes modd
- i gyfarfod rhywun o Wasanaeth Erlyn y Goron i holi am broses y llys, os oes modd
Os caiff y diffynnydd ei ganfod yn euog, mae gennych hawl:
- i ddarllen eich Datganiad Personol Dioddefwr yn uchel neu i gael rhywun i’w ddarllen yn uchel ar eich rhan yn y llys, os yw’n briodol
- i gael gwybod pa ddedfryd a roddwyd i’r troseddwr, gan gynnwys eglurhad byr o’r ddedfryd
Gallwch ddarllen mwy am eich hawliau fel dioddefwr neu dyst i drosedd yn y Cod Dioddefwyr a Siarter y Tystion.
Mae gennych hawl gyfreithiol mewn achosion llys yng Nghymru i siarad Cymraeg wrth roi tystiolaeth. Bydd y llys yn gwneud y trefniadau angenrheidiol i gael cyfieithydd ar y pryd Cymraeg cymwys a bydd yn talu’r gost. Os bydd angen, bydd y llys hefyd yn sicrhau bod unrhyw gwestiynau a ofynnir i chi yn Saesneg yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg i’ch helpu i roi eich tystiolaeth yn Gymraeg.
Geirfa
Gwasanaeth Erlyn y Goron
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cyflwyno achosion troseddol yn y llys ar ôl i’r heddlu ymchwilio iddynt.
Diffynnydd
Y person sydd wedi’i gyhuddo o gyflawni trosedd.
Cod Dioddefwyr
Mae’r Cod Dioddefwyr yn esbonio’r hawliau y gall pawb ddisgwyl eu cael fel dioddefwr trosedd. Mae fersiynau gwahanol ar gael, gan gynnwys taflenni, llyfryn hawdd ei ddeall, a’r cod llawn yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Siarter y Tystion
Dogfen gan y llywodraeth sy’n nodi sut y gall tystion ddisgwyl cael eu trin gan yr heddlu os bydd yn rhaid iddynt roi tystiolaeth yn y llys. Mae gwahanol fersiynau ar gael, gan gynnwys taflen hawdd ei ddeall a’r siarter llawn yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.