Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on cym.victimandwitnessinformation.org.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Mynd i'r cynnwys Gadael y dudalen

Rwy’n berthynas neu ffrind i ddioddefwr

Os yw rhywun agos atoch wedi bod yn ddioddefwr trosedd, gall gael effaith fawr arnoch chi hefyd. Efallai: 

  • y bydd arnoch eisiau dod o hyd i help iddo ef neu hi 
  • y byddwch yn teimlo’n ofidus neu wedi dychryn 
  • y byddwch yn wynebu problemau ariannol neu’n gorfod symud cartref 

Chwiliwch am gymorth yn eich ardal chi i chi a’ch perthynas neu ffrind.

Cael cymorth gan yr heddlu 

Os ydych yn teimlo dan fygythiad mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â’r heddlu.

Os yw’n argyfwng, ffoniwch 999. Fel arall, gallwch ffonio’r heddlu ar 101 neu fynd i’ch gorsaf heddlu leol.

Bod yn barod

Gall nifer o wahanol bethau ddigwydd ar ôl i chi neu’r dioddefwr riportio trosedd. Darllenwch am y broses ymchwilio , a beth fydd yn digwydd os bydd yn rhaid i un ohonoch roi tystiolaeth mewn llys.

Deall pa gymorth i’w ddisgwyl 

Mae’r llywodraeth wedi nodi pa wybodaeth a chymorth y dylai dioddefwyr troseddau ei ddisgwyl gan wasanaethau fel yr heddlu a’r llysoedd. Darllenwch fwy am y Cod Dioddefwyr.

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.