Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on cym.victimandwitnessinformation.org.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Mynd i'r cynnwys Gadael y dudalen

Ymchwiliad yr heddlu

Ar ôl i’r heddlu gael gwybod am drosedd, byddant yn penderfynu p’un a ddylid cychwyn ymchwiliad ai peidio. 

Efallai y byddwch yn teimlo’n bryderus neu’n ofnus iawn ers riportio’r drosedd. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun, ac mae’r heddlu yma i’ch cefnogi. Byddant yn penderfynu a oes arnoch angen unrhyw gymorth arbennig drwy gydol yr ymchwiliad, wedi’i deilwra ar gyfer eich anghenion.

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf

Gall ymchwiliadau gymryd llawer o amser, ond bydd yr heddlu yn eich diweddaru ar adegau pwysig.

Gallwch gytuno â’r swyddog ymchwilio pa mor aml y byddech yn hoffi clywed ganddo neu ganddi. Gallwch hefyd gysylltu ag ef neu hi pryd bynnag y byddech yn hoffi cael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy ffonio 101 a rhoi eich cyfeirnod trosedd.

Bydd rhywun yn cysylltu â chi ar ddiwedd yr ymchwiliad bob amser.

Canlyniad ymchwiliad

Bydd yr heddlu yn gadael i chi wybod cyn pen 5 diwrnod gwaith ar ôl i’r sawl sydd dan amheuaeth gael: 

  • ei arestio
  • ei gyhuddo
  • ei ryddhau heb gyhuddiad
  • ei ryddhau dan ymchwiliad (lle nad oes amodau mechnïaeth)
  • ei ryddhau ar fechnïaeth
  • rhybuddiad, cerydd, rhybudd olaf neu hysbysiad cosb

Byddwch yn cael yr wybodaeth hon cyn pen 1 diwrnod gwaith os ydych yn ddioddefwr trosedd ddifrifol, os ydych wedi cael eich targedu droeon, neu os ydych yn fregus neu wedi cael eich brawychu.

Ni fydd eich achos yn mynd i’r llys os bydd y sawl sydd dan amheuaeth yn cael ei ryddhau heb gyhuddiad neu os bydd yn cael rhybuddiad, cerydd, rhybudd olaf neu hysbysiad cosb.

Penderfynu a ddylai achos fynd i’r llys 

Pan fydd yr heddlu yn gorffen eu hymchwiliad, mae’n bosibl y byddant yn trosglwyddo’r wybodaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron, sy’n cyflwyno achosion troseddol yn y llys. Bydd yr heddlu neu Wasanaeth Erlyn y Goron yn penderfynu a oes digon o dystiolaeth ac a yw mynd â’r achos i’r llys o fudd i’r cyhoedd. 

Os byddant yn ddiweddarach yn penderfynu atal neu newid eich achos, byddant yn rhoi gwybod i chi beth yw’r rhesymau cyn pen 5 diwrnod gwaith.

Os ydych yn ddioddefwr a’ch bod yn anfodlon â phenderfyniad a wnaethpwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron, gallwch ofyn iddynt ei adolygu drwy’r Cynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad. Os cafodd y penderfyniad i beidio ag erlyn person a oedd dan amheuaeth ei wneud gan yr heddlu, gallwch ofyn i’r heddlu perthnasol adolygu eu penderfyniad.

Eich hawliau yn ystod ymchwiliad gan yr heddlu 

Mae gennych hawl: 

  • i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad gan yr heddlu 
  • i gael gwybod pan fydd person sydd dan amheuaeth wedi cael ei arestio a’i gyhuddo 
  • i gael gwybod p’un a fydd y person sydd dan amheuaeth yn gorfod mynd i’r llys ai peidio  
  • i ofyn am adolygiad os ydych yn ddioddefwr trosedd a bod Gwasanaeth Erlyn y Goron neu’r heddlu yn penderfynu peidio ag erlyn rhywun sydd dan amheuaeth 
  • i wneud cais am iawndal dan y Cynllun Iawndal am Anafiadau Troseddol, gan ddibynnu ar yr anaf 

Gallwch ddarllen mwy am eich hawliau fel dioddefwr neu dyst i drosedd yn y Cod Dioddefwyr a Siarter y Tystion.

Beth ddylech chi ei wneud yn ystod ymchwiliad gan yr heddlu 

  1. Cysylltu â’r swyddog ymchwilio os oes arnoch eisiau diweddariad am y drosedd. 
  2. Dweud wrth yr heddlu os ydych yn meddwl bod arnoch angen unrhyw fath o gymorth ychwanegol yn ystod ymchwiliad. 
  3. Gofyn i’r heddlu ddweud wrthych os ydynt yn siarad â phapurau newydd neu orsafoedd teledu am y drosedd (mae yn erbyn y gyfraith i gyhoeddi gwybodaeth amdanoch os ydych dan 18 oed neu’n ddioddefwr trosedd rhyw). 

Beth fydd yn digwydd nesaf

Os bydd y diffynnydd yn pledio’n euog yn ei wrandawiad llys, ni fydd yr achos yn mynd i dreial. Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi fynd i’r llys. 

Os bydd y diffynnydd yn pledio’n ddieuog a’ch bod yn ddioddefwr neu dyst i’r drosedd, mae’n debygol y bydd angen i chi roi tystiolaeth yn y llys. Gall hyn fod yn frawychus, ond byddwch yn cael llawer o gymorth a chefnogaeth. Gallwch hefyd ofyn am gymorth ychwanegol yn y llys (a elwir yn ‘fesurau arbennig’) er mwyn i chi allu rhoi eich tystiolaeth orau. Darllenwch fwy am fynd i’r llys.

Geirfa 

Mechnïaeth 

Pan fydd y person sydd dan amheuaeth yn rhydd nes bydd yn rhaid iddo ddychwelyd i orsaf yr heddlu neu’r llys. 

Cyhuddo 

Pan fydd person sydd dan amheuaeth yn cael ei gyhuddo’n swyddogol o gyflawni trosedd. 

Gwasanaeth Erlyn y Goron  

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cyflwyno achosion troseddol yn y llys ar ôl i’r heddlu ymchwilio iddynt. 

Diffynnydd 

Y person sydd wedi’i gyhuddo o gyflawni trosedd. 

Tystiolaeth 

Gwybodaeth a all ddangos beth ddigwyddodd mewn achos. 

Swyddog ymchwilio 

Y swyddog heddlu sy’n gyfrifol am eich achos a all roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr ymchwiliad. Gallwch ffonio 101 a rhoi eich cyfeirnod trosedd er mwyn cael siarad â’r swyddog priodol. 

Ymchwiliad 

Pan fydd yr heddlu’n cymryd datganiadau tystion ac yn casglu tystiolaeth er mwyn ceisio canfod ffeithiau trosedd a chyhuddo rhywun sydd dan amheuaeth.  

Mesurau arbennig 

Y cymorth ychwanegol y gall llys ei roi i helpu tystion bregus neu sydd wedi eu brawychu i roi eu tystiolaeth orau. Gallai’r mesurau hyn gynnwys rhoi sgriniau o amgylch y blwch tystion. 

Cod Dioddefwyr 

Mae’r Cod Dioddefwyr yn esbonio’r hawliau y gall pawb ddisgwyl eu cael fel dioddefwr trosedd. Mae fersiynau gwahanol ar gael, gan gynnwys taflenni, llyfryn hawdd ei ddeall, a’r cod llawn yn y Gymraeg a’r Saesneg. 

Cynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad

Mae’r Cynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad yn rhoi’r hawl i ddioddefwyr ofyn am adolygiad o benderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio ag erlyn neu i atal achos troseddol.

Siarter y Tystion

Dogfen gan y llywodraeth sy’n nodi sut y gall tystion ddisgwyl cael eu trin gan yr heddlu os bydd yn rhaid iddynt roi tystiolaeth yn y llys. Mae gwahanol fersiynau ar gael, gan gynnwys taflen hawdd ei ddeall a’r siarter llawn yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.