Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on cym.victimandwitnessinformation.org.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Mynd i'r cynnwys Gadael y dudalen

Trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol

Cymorth yn dilyn trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol

Os ydych wedi profi trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol, mae’n bwysig cofio nad oes bai arnoch chi. Mae cymorth ar gael i chi pryd bynnag a ble bynnag y digwyddodd y drosedd. Dyw hi byth yn rhy gynnar nac yn rhy hwyr i ofyn am help a byddwch yn cael eich credu bob amser.

Drwy wasanaethau cymorth gallwch:

  • ddweud wrth rywun beth ddigwyddodd
  • cael help i gael rhagor o gymorth
  • cael help i ganfod eich ffordd o gwmpas y system cyfiawnder troseddol
  • cael cymorth emosiynol, gan gynnwys cymorth gan gwnselwyr a therapyddion sydd wedi’u hyfforddi
  • cael help i gael gofal meddygol

Os ydych dros 16 oed ac yn byw yng Nghymru a Lloegr, ffoniwch 0808 500 2222 neu ewch i www.247sexualabusesupport.org.uk i gael cyngor arbenigol a chyfrinachol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth a manylion cyswllt gwasanaethau cymorth eraill yn y cyfarwyddyd hwn ar gymorth yn dilyn trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol.

Riportio trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol

Gall siarad am drais rhywiol neu ymosodiad rhywiol fod yn anodd. Gorau po gyntaf y byddwch yn ei riportio, oherwydd bydd gan yr heddlu well siawns o gasglu tystiolaeth, ond chi sydd i ddewis a ydych am ei riportio neu beidio. Os byddwch yn ei riportio, bydd yr heddlu yn gwneud popeth posibl i wneud yn siŵr eich bod yn cael y gofal a’r cymorth briodol.  

  • Os ydych mewn perygl, ffoniwch 999. Fel arall, gallwch ffonio’r heddlu ar 101 neu riportio ar-lein.
  • Gallwch fynd i orsaf heddlu a gofyn am gael siarad â rhywun yn breifat.
  • Gallwch ofyn i wasanaeth cymorth i ddioddefwyr riportio’r drosedd ar eich rhan. Gelwir hyn yn adroddiad trydydd parti. Bydd yn ddienw, felly ni fydd yr heddlu’n ymchwilio i’r mater, ond gallai eu helpu i ddod â throseddau cysylltiedig at ei gilydd. 

Pan fyddwch yn riportio trosedd am y tro cyntaf, mae’n bosibl y gofynnir i chi ateb ychydig o gwestiynau a fydd yn helpu’r heddlu i gychwyn ymchwiliad a deall a oes perygl i chi gael rhagor o niwed.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn y cyfarwyddyd hwn ar riportio trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol.

Ymchwilio i drais rhywiol neu ymosodiad rhywiol

Ar ôl i chi riportio trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol i’r heddlu, byddant yn gwneud yn siŵr eich bod yn ddiogel. Gallai hyn gynnwys trefnu gorchmynion cyfreithiol i’ch diogelu. Mae’n bosibl hefyd: 

  • y byddwch yn cael eich cyfweld gan swyddog heddlu sydd wedi cael hyfforddiant penodol er mwyn deall beth ddigwyddodd
  • y gofynnir i chi am y dillad roeddech yn eu gwisgo pan ymosodwyd arnoch
  • y byddwch yn cael archwiliad meddygol yn breifat gan staff meddygol mewn Canolfan Atgyfeirio Troseddau Rhyw

Bydd yr heddlu neu Wasanaeth Erlyn y Goron yn dweud wrthych beth yw canlyniad yr ymchwiliad i’ch achos (dim camau pellach, adolygu’r achos neu ymchwiliad pellach).

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn y cyfarwyddyd hwn ar ymchwilio i drais rhywiol neu ymosodiad rhywiol.

Mynd i’r llys

O dan y Cod Dioddefwyr , mae gennych hawl i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y treial a’ch rôl yn y broses. Mae’n bosibl na fydd y treial yn cael ei gynnal am beth amser.

Mae’n debygol y bydd angen i chi roi tystiolaeth yn y llys. Byddwch yn cael eich trin â charedigrwydd a pharch drwy gydol y broses, a gallwch ofyn am ‘fesurau arbennig’ i wneud pethau’n haws i chi. Gallai hyn gynnwys gofyn i’r cyhoedd adael yr ystafell llys tra byddwch chi’n rhoi tystiolaeth.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn y cyfarwyddyd hwn ar broses y llys ar gyfer trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol.

Ar ôl y treial

Gall mynd drwy dreial fod yn brofiad anodd iawn, ac mae cymorth ar gael o hyd ar ôl bod yn y llys. Gallwch gael help a chyngor ar y canlynol:

  • hawlio treuliau a chael eich eiddo yn ôl gan yr heddlu
  • apelio yn erbyn y ddedfryd os ydych yn meddwl nad yw’n ddigon llym
  • parôl a beth i’w ddisgwyl
  • ymuno â’r Cynllun Cyswllt Dioddefwyr os cafodd y troseddwr ei ddedfrydu i 12 mis neu fwy yn y carchar

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn y cyfarwyddyd hwn ar beth fydd yn digwydd ar ôl treial trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol.

Geirfa 

Achos 

Pan fyddwch yn riportio trosedd i’r heddlu, cyfeirir at bopeth sy’n ymwneud â’r drosedd honno wedyn fel yr achos.  

Gwasanaeth Erlyn y Goron

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cyflwyno achosion troseddol yn y llys ar ôl i’r heddlu ymchwilio iddynt. 

Mesurau arbennig

Y cymorth ychwanegol y gall llys ei roi i helpu tystion bregus neu sydd wedi eu brawychu i roi eu tystiolaeth orau. Gallai’r mesurau hyn gynnwys rhoi sgriniau o amgylch y blwch tystion. 

Cod Dioddefwyr

Mae’r Cod Dioddefwyr yn esbonio’r hawliau y gall pawb ddisgwyl eu cael fel dioddefwr trosedd. Mae fersiynau gwahanol ar gael, gan gynnwys taflenni, llyfryn hawdd ei ddeall, a’r cod llawn yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.