Mynd i'r cynnwys Gadael y dudalen

Mae’r wefan hon yn newydd - lleisiwch eich barn

Bydd y ffurflen adborth yn agor yn Saesneg
Darganfod mwy

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Deall ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) yn ymddygiad gan unigolyn sy’n achosi, neu’n debyg o achosi aflonyddwch, braw neu ofid i unigolyn y tu allan i’w haelwyd. Mae’n gallu cynnwys ymddygiad troseddol a heb fod yn droseddol.

Mae yna 3 phrif gategori ASB:

  1. Ymddygiad gwrthgymdeithasol personol yw pan fydd unigolyn yn targedu unigolyn neu grŵp penodol.
  2. Ymddygiad gwrthgymdeithasol niwsans yw pan fydd unigolyn yn achosi trwbl, dicter neu ddioddefaint i gymuned.
  3. Ymddygiad gwrthgymdeithasol amgylcheddol yw pan mae camau unigolyn yn effeithio ar yr amgylchedd ehangach, fel mannau neu adeiladau cyhoeddus.

Dyma rai mathau o ASB:

  • gadael cerbyd
  • niwsans neu ddefnydd amhriodol o gerbyd
  • ymddygiad stwrllyd neu anystyriol
  • cymdogion niwsans neu stwrllyd
  • sbwriel neu baraffernalia cyffuriau
  • problemau anifeiliaid
  • tresmasu
  • galwadau niwsans
  • yfed ar y stryd
  • sŵn niwsans
  • camddefnyddio tân gwyllt
  • camdriniaeth eiriol
  • aflonyddu
  • ymddygiad brawychus a/neu fygythiol

Cewch wybod mwy yn Ymddygiad gwrthgymdeithasol: sut i gael help.

Rhoi gwybod am ASB  

Yr asiantaethau a sefydliadau mwyaf cyffredin mae dioddefwyr yn adrodd iddynt am ASB yw’r heddlu, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai. 

Mae Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol yn aml yn cyhoeddi sut orau i adrodd am ASB ar eu gwefan ac mae’n bosibl y bydd yna swyddogion arbenigol i ddelio gydag ASB. Mae gan landlordiaid cymdeithasol gyfrifoldeb i fynd i’r afael ag ASB o dan y Safon Cymdogaeth a Chymuned (sydd angen i ddarparwyr cofrestredig tai cymdeithasol weithio mewn partneriaeth gydag adrannau awdurdodau lleol priodol, yr heddlu a sefydliadau perthnasol eraill i atal a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac achosion o gasineb yn y cymdogaethau maent yn darparu tai cymdeithasol).

Adrodd i’r heddlu 

Gallwch adrodd yn gyfrinachol drwy: 

Adrodd i awdurdodau lleol 

Gallwch adrodd drwy: 

  • ffonio eich awdurdod lleol 
  • adrodd ar wefan eich Cyngor  

Dod o hyd i’ch cyngor lleol

Adrodd i landlordiaid cymdeithasol 

Gallwch adrodd drwy: 

  • cysylltu â’ch landlord dros y ffôn 
  • cysylltu â’ch swyddog tai 
  • defnyddio’r wefan neu eich cyfrif ar-lein gyda’ch landlord 

Cefnogaeth yn dilyn ASB 

Os ydych yn ddioddefwr ASB, gallwch gael mynediad at ystod o gefnogaeth a ddarperir yn lleol ac ar lefel mwy cenedlaethol. Mae’n bosibl y bydd gan eich ardal leol swyddog cymorth cymunedol y gallwch fynd atynt i gael gwybodaeth am gefnogaeth sydd ar gael. Gallwch hefyd siarad gyda chanolfan y gyfraith, eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol neu’r sefydliadau a restrwyd isod.

Os ydych wedi adrodd am ASB troseddol i’r heddlu, mae gennych hawl o dan y Cod Dioddefwyr i gael cynnig atgyfeiriad i wasanaethau cymorth i ddioddefwyr.  Os ydych yn dewis peidio adrodd i’r heddlu, gallwch dal gael mynediad i’r gwasanaethau cymorth hyn drwy gysylltu â nhw eich hun. Ewch i Dod o hyd i gefnogaeth am fanylion. 

Os ydych yn dyst i ASB a adroddwyd i’r heddlu ac yn mynd drwy’r system cyfiawnder troseddol, mae gennych hawl i ddisgwyl y safonau gofal a chymorth a nodir yn y Siarter Tyst.  

Mae’n bosibl y gall y sefydliadau isod hefyd roi cyngor a chymorth i chi ymdopi gydag effeithiau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl: 

Adolygiad Achos ASB 

Os ydych yn ddioddefwr ASB cyson, mae’n bosibl y gallwch ofyn am Adolygiad Achos ASB. Mae’r Adolygiad Achos ASB yn broses ble mae sefydliadau yn nodi os gellir cymryd unrhyw gamau pellach i fynd i’r afael ag ASB.  Cafodd ei alw’n flaenorol yn ‘Sbardun Cymunedol’. Mae gan ddioddefwyr sydd wedi adrodd am broblemau parhaus o ASB yr hawl i ofyn am adolygiad o’u hachos ble maent yn credu nad yw eu hadroddiad wedi derbyn sylw priodol. Mae’r cyrff perthnasol mewn ardal leol yn gosod y meini prawf cymhwyster ar gyfer Adolygiad Achos ASB – awdurdodau lleol, yr heddlu, partneriaid iechyd a darparwyr tai cymdeithasol – ac mewn ymgynghoriad â’r Corff Plismona Lleol. Mae Adolygiad Achos ASB yn caniatáu i asiantaethau, gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol i rannu gwybodaeth am yr achos (e.e. amlder cwynion blaenorol), adolygu camau a gymerwyd a phenderfynu pa un a oes mwy y gellir ei wneud.  

Gellir gofyn am Adolygiad Achos ar ran dioddefwr hefyd, gyda’u caniatâd. Mae hyn yn golygu y gellir gwneud cais gan ofalwr neu aelod o’r teulu, Aelod Seneddol, cynghorydd lleol neu weithiwr proffesiynol arall, ar ran dioddefwr.  

I gael mwy o wybodaeth am y broses Adolygiad Achos ASB, ewch i Adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gallwch ganfod sut i ymgeisio am Adolygiad Achos ASB yn eich ardal drwy eich heddlu lleol neu eich cyngor lleol

Gwneud cwyn 

Os ydych yn anfodlon sut mae eich adroddiad wedi derbyn sylw, yn ogystal ag Adolygiad Achos ASB (uchod), gallwch hefyd gofnodi cwyn gyda’r asiantaeth dan sylw, cysylltu â’r Gwasanaeth Ombwdsmon Tai (os ydych yn denant neu’n les-ddeiliad awdurdod lleol neu gymdeithas dai ac wedi defnyddio proses gwynion eich landlord), neu’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol os ydych wedi cwyno i’ch awdurdod lleol.  Mae’n bosibl y byddwch yn dymuno cysylltu â’ch cynghorydd lleol hefyd am eich pryderon.  Yn aml, mae cynghorwyr yn gallu cynnig eu harbenigedd a gwybodaeth leol i ddatrys eich cwyn ar lefel leol.  Gellir dod o hyd i enw a rhif ffôn eich Cynghorydd yn neuadd y dref neu yn WriteToThem.

Mynd i’r llys 

Gall adrodd am rai mathau o ASB arwain at achos troseddol. O dan y Cod Dioddefwyr, os ydych yn ddioddefwr trosedd, mae gennych hawl i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am yr achos a’ch rôl fel tyst. Gall gymryd peth amser cyn i dreial gael ei gynnal. Gall rhai mathau o ASB hefyd arwain at achos sifil a dylai eich landlord eich hysbysu pa lefel o gefnogaeth y gallent ei chynnig i chi drwy’r broses hon.  

Geirfa

Cymdeithas dai

Mae’r rhain yn ‘landlordiaid cymdeithasol’ sy’n sefydliadau annibynnol, nid er elw, gyda ffocws ar ddarparu tai am gost mwy fforddiadwy.

Awdurdod lleol

Mae awdurdod lleol yn sefydliad cyhoeddus sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau a rheoli llywodraethu lleol mewn ardal ddiffiniedig. Gall gwasanaethau gynnwys addysg, gofal cymdeithasol, tai a diogelwch cymunedol. Mewn rhai ardaloedd, rhennir cyfrifoldebau rhwng dau gyngor – sir a rhanbarth neu fwrdeistref – a gallwch roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) i’r naill neu’r llall, yn dibynnu ar y mater.

Cod Dioddefwyr

Mae’r Cod Dioddefwyr yn esbonio’r hawliau y gall pawb ddisgwyl eu cael fel dioddefwr trosedd. Mae fersiynau gwahanol ar gael, gan gynnwys taflenni, llyfryn hawdd ei ddeall, a’r cod llawn yn y Gymraeg a’r Saesneg.