Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on cym.victimandwitnessinformation.org.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Mynd i'r cynnwys Gadael y dudalen

Ar ôl y treial

Bydd yr Uned Gofal Tystion neu’r heddlu yn dweud wrthych beth yw canlyniad y treial pan fyddant yn cael yr wybodaeth gan y llys. 

Cael cymorth ar ôl y treial 

Os oes arnoch angen unrhyw fath o gymorth ar ôl eich profiad yn y llys, gallwch ddod o hyd i gymorth yn eich ardal chi neu gael cymorth ar-lein.
 
Gallwch hefyd ofyn i’r Uned Gofal Tystion, yr heddlu neu’r Gwasanaeth Tystion eich cyfeirio at wasanaethau cymorth.  

Ymuno â’r Cynllun Cyswllt Dioddefwyr 

Byddwch yn cael gwahoddiad i ymuno â’r Cynllun Cyswllt Dioddefwyr os ydych yn ddioddefwr trosedd dreisgar neu rywiol a bod y troseddwr naill ai:  

  • wedi cael dedfryd o 12 mis o leiaf yn y carchar; neu 
  • wedi cael ei gadw dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 

Mae’r cynllun yn rhoi hawl i chi: 

  • gael gwybod os yw’r troseddwr wedi symud i garchar agored
  • cael gwybod os yw’r troseddwr yn cael ei ystyried ar gyfer ei ryddhau 
  • gofyn am amodau ychwanegol y bydd yn rhaid i’r troseddwr eu dilyn pan ddaw allan o’r carchar – er enghraifft, cadw draw oddi wrth eich cartref chi 

Chi fydd yn penderfynu p’un a ydych am ymuno â’r cynllun ai peidio, ac mae’n dibynnu sut rydych chi’n teimlo. Gallwch ddewis peidio â chymryd rhan yn y cynllun. Os byddwch yn newid eich meddwl, gallwch ymuno yn nes ymlaen drwy anfon e-bost yn holi ynglŷn â’r Cynllun Cyswllt Dioddefwyr i vcsenquiries@justice.gov.uk. 

Sut i ymuno â’r cynllun 

Anfonir llythyr atoch yn gofyn a oes arnoch eisiau ymuno gan eich Uned Cyswllt Dioddefwyr leol, sy’n rheoli’r cynllun.  

Lle bo modd, gall swyddog cyswllt dioddefwyr sydd wedi cael hyfforddiant penodol hefyd ymweld â chi i egluro ei rôl ac ateb unrhyw gwestiynau. Y swyddog hwn fydd eich pwynt cyswllt personol os byddwch yn penderfynu ymuno. 

Cael diweddariadau 

Ar ôl i chi ymuno â’r cynllun, gall eich swyddog cyswllt dioddefwyr: 

  • gadw mewn cysylltiad â chi yn ystod dedfryd y troseddwr 
  • ateb eich cwestiynau 
  • rhoi gwybodaeth i chi ynglŷn â sut mae’r system cyfiawnder troseddol yn gweithio 

Byddant yn gofyn i chi: 

  • pa wybodaeth y byddech yn hoffi ei chael 
  • pa mor aml y byddech yn hoffi iddynt gysylltu â chi 
  • sut y byddech yn hoffi i’r wybodaeth gael ei hanfon atoch chi 

Bydd angen i chi ddweud wrth eich swyddog cyswllt dioddefwyr os bydd eich manylion cyswllt yn newid. 

Gall y Cynllun Cyswllt Dioddefwyr hefyd roi gwybodaeth i rieni, gwarcheidwaid neu ofalwyr dioddefwyr ifanc, yn ogystal â pherthnasau agosaf rhywun sydd wedi cael ei ladd o ganlyniad i drosedd. 

Dysgu am barôl 

Mae’r Bwrdd Parôl yn penderfynu a ellir rhyddhau rhai troseddwyr yn ôl i’r gymuned yn ddiogel.  

Os yw troseddwr yn cael ei ystyried ar gyfer parôl, gall eich swyddog cyswllt dioddefwyr eich helpu. Gallant roi gwybodaeth ynglŷn â sut i: 

  • ysgrifennu datganiad personol i’r Bwrdd Parôl, gan egluro pa effaith y mae’r drosedd wedi’i gael arnoch chi 
  • gofyn am amodau ychwanegol y bydd yn rhaid i’r troseddwr eu dilyn pan gaiff ei ryddhau o’r carchar
  • cael crynodeb o benderfyniad y Bwrdd Parôl  

Os bydd y troseddwr yn apelio yn erbyn ei ddedfryd 

Gall y troseddwr ofyn am adolygiad o benderfyniad y llys ynglŷn â’i ddedfryd gan lys arall. Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr Uned Gofal Tystion yn dweud wrthych pryd a ble y cynhelir gwrandawiad yr apêl. 

Fel dioddefwr y drosedd, byddwch yn gallu mynd i’r gwrandawiad os dymunwch. Mae’n bosibl y gofynnir i chi roi tystiolaeth os ydych yn mynd. 

Bydd yr Uned Gofal Tystion yn dweud wrthych beth yw’r canlyniad, gan gynnwys unrhyw newid i’r ddedfryd. 

Dod o hyd i wybodaeth newydd 

Gall y troseddwr hefyd ofyn i’r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol ailedrych ar ei achos os bydd gwybodaeth newydd yn dod i’r fei a allai newid ei ddedfryd neu ei euogfarn. 

Mae’n bosibl na fyddwch yn cael gwybod am adolygiad. Yn anaml iawn y bydd achos yn cael ei anfon yn ôl i’r llys. 

Cael cyswllt digroeso gan y troseddwr 

Bydd unrhyw gyswllt digroeso gan droseddwr, gan gynnwys wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy safleoedd cyfryngau cymdeithasol, yn cael ei drin yn ddifrifol iawn. 

Os bydd troseddwr sydd yn y carchar yn cysylltu â chi, gallwch naill ai:

Os bydd troseddwr sy’n bwrw ei ddedfryd yn y gymuned yn cysylltu â chi (troseddwr sydd ‘ar drwydded’), rhowch wybod amdano i’ch swyddog cyswllt dioddefwyr, yr heddlu neu’r gwasanaeth prawf lleol. 

Os bydd troseddwr sydd dan 18 ac yn cael ei oruchwylio gan dîm troseddwyr ifanc yn cysylltu â chi, rhowch wybod amdano i’r tîm hwnnw. 

Gallwch hefyd ffonio’r heddlu ar 101, neu 999 os yw’n argyfwng.

Cymryd rhan mewn cyfiawnder adferol 

Mae cyfiawnder adferol yn dod â dioddefwyr a throseddwyr at ei gilydd i gyfathrebu â’i gilydd. Ni fydd hyn yn digwydd oni bai fod arnoch chi a’r troseddwr eisiau cymryd rhan a bod hwylusydd sydd wedi ei hyfforddi yn penderfynu bod hynny’n ddiogel. Efallai y byddwch yn cyfarfod wyneb yn wyneb neu’n cyfnewid negeseuon, ond bydd yr hwylusydd yn bresennol bob amser. 

Gall cyfiawnder adferol fod yn gyfle i chi:  

  • ddisgrifio sut y mae trosedd y troseddwr wedi effeithio arnoch chi 
  • cael atebion i gwestiynau  
  • symud ymlaen â’ch bywyd 

Gall hefyd fod yn gyfle i’r troseddwr ddeall gwir effaith ei drosedd a rhoi wyneb i’w ddioddefwr. Mae’n bosibl y bydd yn ei atal rhag cyflawni trosedd arall. 

Efallai y gallwch hyd yn oed gytuno ar rywbeth y gall y troseddwr ei wneud er mwyn gwneud iawn. 

Os oes cyfiawnder adferol ar gael yn agos atoch chi, bydd y swyddog ymchwilio yn dweud wrthych sut y gallwch gymryd rhan. Os yw’r troseddwr dan 18 oed, bydd y tîm troseddwyr ifanc yn cysylltu. 

Eich hawliau ar ôl treial

Os cafodd y troseddwr ei ganfod yn euog, mae gennych hawl: 

  • i ymuno â’r Cynllun Cyswllt Dioddefwyr os yw wedi cael ei ddedfrydu i 12 mis neu fwy am drosedd dreisgar neu rywiol 
  • cael gwybod pa ddedfryd a roddwyd iddo, gan gynnwys eglurhad byr o’r ddedfryd
  • cael gwybod am unrhyw apêl yn erbyn ei euogfarn neu ddedfryd
  • gwneud cais am iawndal dan y Cynllun Iawndal am Anafiadau Troseddol  
  • cael gwybodaeth am gyfiawnder adferol a sut y gallwch gymryd rhan 
  • cael gwybod sut i herio penderfyniad parôl os bydd y Bwrdd Parôl yn penderfynu ei bod yn ddiogel i ryddhau’r troseddwr 

Gallwch ddarllen mwy am eich hawliau fel dioddefwr neu dyst i drosedd yn y Cod Dioddefwyr a Siarter y Tystion.  

Beth ddylech chi ei wneud ar ôl treial 

  1. Os byddwch yn ymuno â’r Cynllun Cyswllt Dioddefwyr, cofiwch ddweud wrth eich swyddog cyswllt dioddefwyr pryd bynnag y bydd eich manylion cyswllt yn newid. 
  2. Darganfyddwch a allwch hawlio iawndal os ydych yn un o ddioddefwyr y drosedd. 
  3. Dod o hyd i gymorth yn eich ardal chi neu gael cymorth ar-lein os oes arnoch angen hynny.

Geirfa 

Apêl 

Pan fydd y diffynnydd yn gofyn am adolygiad o benderfyniad y llys. Gall arwain at wrandawiad arall. 

Swyddog ymchwilio 

Y swyddog heddlu sy’n gyfrifol am eich achos a all roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr ymchwiliad. Gallwch ffonio 101 a rhoi eich cyfeirnod trosedd er mwyn cael siarad â’r swyddog priodol. 

Bwrdd Parôl 

Mae gwrandawiadau’r Bwrdd Parôl yn argymell p’un a ddylai carcharor gael ei ryddhau i’r gymuned ai peidio.  

Prawf 

Pan fydd rhywun yn treulio ei ddedfryd y tu allan i’r carchar. 

Cyfiawnder adferol 

Dod â phobl sydd wedi cael eu heffeithio gan drosedd â’r rhai sy’n gyfrifol am y drosedd at ei gilydd i geisio dod o hyd i ffordd gadarnhaol o symud ymlaen. 

Swyddog cyswllt dioddefwyr 

Y person a fydd yn gweithio gyda chi os ydych wedi ymuno â’r Cynllun Cyswllt Dioddefwyr. Bydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y prif gamau neu ddigwyddiadau yn nedfryd y troseddwr. Gallant hefyd wneud yn siŵr bod eich safbwyntiau yn cael eu rhannu â’r carchar neu’r Bwrdd Parôl pan fydd rhyddhau’r troseddwr yn cael ei ystyried. 

Cod Dioddefwyr 

Mae’r Cod Dioddefwyr yn esbonio’r hawliau y gall pawb ddisgwyl eu cael fel dioddefwr trosedd. Mae fersiynau gwahanol ar gael, gan gynnwys taflenni, llyfryn hawdd ei ddeall, a’r cod llawn yn y Gymraeg a’r Saesneg. 

Uned Gofal Tystion 

Mae’r Uned Gofal Tystion yn disgrifio swyddogaeth yn cael ei harwain gan yr heddlu sy’n darparu gwybodaeth a chymorth i ddioddefwyr a thystion mewn achosion sy’n mynd drwy’r system cyfiawnder troseddol. Mae’n bosibl y bydd gan yr uned hon enw gwahanol yn eich ardal leol chi. 

Siarter y Tystion 

Dogfen gan y llywodraeth sy’n nodi sut y gall tystion ddisgwyl cael eu trin gan yr heddlu os bydd yn rhaid iddynt roi tystiolaeth yn y llys. Mae gwahanol fersiynau ar gael, gan gynnwys taflen hawdd ei ddeall a’r siarter llawn yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

Tîm troseddwyr ifanc 

Y tîm sy’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 10 a 17 oed sy’n mynd i helynt gyda’r gyfraith.  

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.