Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on cym.victimandwitnessinformation.org.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Mynd i'r cynnwys Gadael y dudalen

Y broses o riportio trosedd

Dweud wrth yr heddlu neu Crimestoppers 

Os oes trosedd yn digwydd, os oes rhywun mewn perygl neu os yw’r person sydd dan amheuaeth yn agos, ffoniwch 999.  

Os nad yw’n argyfwng, ffoniwch yr heddlu ar 101, riportiwch y drosedd ar-lein neu ewch i’ch gorsaf heddlu leol.

Os hoffech riportio trosedd yn ddienw, gallwch ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111 neu roi gwybodaeth iddynt ar-lein.

Drwy riportio trosedd, gallech helpu i atal y sawl sydd dan amheuaeth rhag achosi mwy o niwed i chi neu bobl eraill.

Cael cyfeirnod trosedd 

Pan fyddwch yn riportio trosedd i’r heddlu, byddwch yn cael cyfeirnod trosedd.  

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw nodyn o’r cyfeirnod – bydd arnoch ei angen pryd bynnag y byddwch yn cysylltu â’r swyddog ymchwilio i gael diweddariad am yr achos.

Ffoniwch 101 a rhowch eich cyfeirnod trosedd er mwyn cael siarad â’r swyddog sy’n ymchwilio.

Diwallu eich anghenion 

Bydd yr heddlu yn asesu eich anghenion os byddwch yn rhoi datganiad iddynt. Mae’r asesiad o anghenion yn cynnwys y canlynol: 

  • pryd a sut y byddech yn hoffi i rywun gysylltu â chi 
  • unrhyw anghenion yn ymwneud ag iaith, cyfathrebu neu ddiwylliant sydd gennych 

Beth bynnag yw eich anghenion, byddwch yn cael eich trin ag urddas, sensitifrwydd a pharch. Gellir gwneud unrhyw newidiadau rhesymol (er enghraifft defnyddio cyfieithydd) i sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth a’r cymorth y mae arnoch ei angen. 

Bydd yr heddlu hefyd yn asesu a ydych yn fregus neu wedi eich brawychu. Byddant yn sôn wrthych am ‘fesurau arbennig’  i’ch helpu i roi eich tystiolaeth orau (er enghraifft, siarad y tu ôl i sgrin os bydd yr achos yn mynd i’r llys). 

Mae pawb sydd dan 18 oed yn cael ei drin fel tyst bregus.

Rhoi datganiad tyst 

Adroddiad ysgrifenedig o’r hyn a ddigwyddodd yw datganiad tyst, a gellir ei ddefnyddio fel tystiolaeth mewn llys. 

Rhaid i’r sawl sy’n eich cyfweld sicrhau: 

  • ei fod yn ystyried pa gymorth y gallai fod arnoch ei angen i wneud y datganiad 
  • ei fod yn deall beth rydych yn ei ddweud wrtho ac yn ei gofnodi’n gywir 
  • eich bod yn cael cyfle i wirio bod y cofnod yn gywir 
  • y gallwch newid unrhyw beth sy’n anghywir cyn i chi lofnodi’r datganiad 

Ar ôl i chi lofnodi eich datganiad tyst, ni fyddwch yn gallu ei newid. Ond gallwch roi datganiad newydd i’r heddlu os oes arnoch eisiau ychwanegu mwy o wybodaeth.  Os ydych yn ddioddefwr trosedd, bydd yr heddlu hefyd yn rhoi cyfle i chi wneud Datganiad Personol Dioddefwr.

Gwneud Datganiad Personol Dioddefwr 

Mae Datganiad Personol Dioddefwr yn wahanol i ddatganiad tyst. Mae’n rhoi cyfle i chi ddisgrifio sut y mae’r drosedd wedi effeithio arnoch chi yn gorfforol, yn feddyliol, yn emosiynol neu’n ariannol. 

Os bydd eich achos yn mynd i’r llys, caiff eich Datganiad Personol Dioddefwr ei ddangos i’r diffynnydd a’i gyfreithwyr. Gall hefyd gael: 

  • ei gwestiynu yn ystafell y llys (gelwir hyn yn ‘groesholi’)
  • ei ddarllen yn uchel os caiff y diffynnydd ei ganfod yn euog 

Mae’n bosibl y gofynnir i chi wneud Datganiad Personol Dioddefwr: 

  • os ydych wedi cael eich brawychu neu os ydych yn fregus, os ydych wedi cael eich targedu’n barhaus, neu os ydych yn ddioddefwr trosedd ddifrifol 
  • os ydych yn rhiant neu warcheidwad dioddefwr trosedd ifanc 
  • os ydych yn berthynas agos i rywun sydd wedi marw o ganlyniad i drosedd 

Ar ôl i chi lofnodi eich Datganiad Personol Dioddefwr, ni fyddwch yn gallu ei newid. Ond gallwch roi datganiad newydd i’r heddlu os bydd arnoch eisiau ychwanegu mwy o wybodaeth. 

Gallwch hefyd roi fersiwn wedi’i ddiweddaru o Ddatganiad Personol Dioddefwr ychydig cyn i’r achos fynd i’r llys. Bydd hyn yn eich helpu i ddisgrifio pethau nad oeddent wedi codi y tro cyntaf yr oeddech yn siarad â’r heddlu.

Cael cymorth ar ôl riportio trosedd 

Mae cymorth rhad ac am ddim, cyfrinachol ac annibynnol ar gael i bob dioddefwr a thyst i drosedd.

Gadewch i’r swyddog ymchwilio wybod os hoffech gael mwy o wybodaeth ynglŷn â pha gymorth sydd ar gael, neu chwiliwch am gymorth yn eich ardal leol chi.

Eich hawliau pan fyddwch yn riportio trosedd 

Mae gennych hawl i gael y canlynol: 

  • cadarnhad ysgrifenedig o’r drosedd rydych wedi ei riportio 
  • eglurhad clir ynglŷn â sut mae’r system cyfiawnder troseddol yn gweithio 
  • help i benderfynu pa gymorth y mae arnoch ei angen (‘asesiad o anghenion’) 
  • eich cyfeirio at sefydliadau a all gynnig cymorth i chi
  • yr opsiwn i wneud Datganiad Personol Dioddefwr sy’n egluro sut y mae’r drosedd wedi effeithio arnoch chi 
  • gwybodaeth am gyfiawnder adferol 

Gallwch ddarllen mwy am eich hawliau fel dioddefwr neu dyst i drosedd yn y Cod Dioddefwyr a Siarter y Tystion.

Beth ddylech chi ei wneud pan fyddwch yn riportio trosedd

  1. Cadw nodyn o gyfeirnod y drosedd. 
  2. Dweud wrth yr heddlu os nad ydych yn deall beth maen nhw’n ei ddweud wrthych chi. 
  3. Gwneud yn siŵr eich bod yn gwirio eich datganiadau yn ofalus cyn eu llofnodi. 
  4. Dweud wrth yr heddlu os ydych yn teimlo’n nerfus neu’n fregus. 
  5. Gofyn am fanylion cyswllt un o swyddogion yr heddlu er mwyn i chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y drosedd. 
  6. Gwneud yn siŵr bod yr heddlu wedi ystyried eich holl anghenion. 

Beth fydd yn digwydd nesaf

Ar ôl i chi riportio trosedd, bydd yr heddlu yn tawelu eich meddwl ynglŷn â’r camau nesaf a phroses ymchwilio’r heddlu.

Geirfa

Swyddog ymchwilio  

Y swyddog heddlu sy’n gyfrifol am eich achos a all roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr ymchwiliad. Gallwch ffonio 101 a rhoi eich cyfeirnod trosedd er mwyn cael siarad â’r swyddog priodol. 

Mesurau arbennig 

Y cymorth ychwanegol y gall llys ei roi i helpu tystion bregus neu sydd wedi eu brawychu i roi eu tystiolaeth orau. Gallai’r mesurau hyn gynnwys rhoi sgriniau o amgylch y blwch tystion. 

Datganiad Personol Dioddefwr 

Eich cyfle i ddisgrifio sut y mae’r drosedd wedi effeithio arnoch chi. Gallwch ddarllen eich datganiad yn uchel yn y llys, neu gall rhywun arall ei ddarllen ar eich rhan. Os bydd troseddwr yn cael ei ystyried ar gyfer ei ryddhau o’r carchar yn gynnar, gallwch wneud Datganiad Personol Dioddefwr newydd i’r Bwrdd Parôl. 

Cod Dioddefwyr 

Mae’r Cod Dioddefwyr yn esbonio’r hawliau y gall pawb ddisgwyl eu cael fel dioddefwr trosedd. Mae fersiynau gwahanol ar gael, gan gynnwys taflenni, llyfryn hawdd ei ddeall, a’r cod llawn yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Siarter y Tystion 

Dogfen gan y llywodraeth sy’n nodi sut y gall tystion ddisgwyl cael eu trin gan yr heddlu os bydd yn rhaid iddynt roi tystiolaeth yn y llys. Mae gwahanol fersiynau ar gael, gan gynnwys taflen hawdd ei ddeall a’r siarter llawn yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

Datganiad tyst

Adroddiad ysgrifenedig neu wedi’i recordio o ffeithiau a manylion trosedd.