Mynd i'r cynnwys Gadael y dudalen

Dysgu am fathau gwahanol o droseddau

Mae llawer o wahanol fathau o droseddau. Mae yna gyfarwyddyd arbenigol ar rai mathau penodol o droseddau isod, ond nid yw’r rhestr yn cynnwys pob math o drosedd.

Nid oes rhaid i chi riportio trosedd i’r heddlu i gael cymorth. Gallwch gysylltu â gwasanaethau cymorth yn uniongyrchol i gael cymorth.

Cam-drin domestig

Deall cam-drin domestig, sut i’w riportio a sut i gael cymorth.

Trais rhywiol ac ymosodiad rhywiol

Darllenwch ein cyfres o ganllawiau ar riportio trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol, beth allai ddigwydd nesaf a’r cymorth sydd ar gael.

Aflonyddu a stelcio

Deall aflonyddu, stelcio a’r gorchmynion amddiffyn a allai fod ar gael i chi.

Troseddau casineb

Gwybodaeth am droseddau casineb a sut i’w riportio.

Ymosodiadau corfforol neu fygythiadau

Gwybodaeth am sut i gael cymorth ar unwaith ar ôl i rywun ymosod arnoch neu eich bygwth, ar ôl riportio ymosodiad neu fygythiad a thrwy gydol eich adferiad.

Ymosodiadau terfysgol

Deall sut i gael cymorth yn dilyn ymosodiad terfysgol.

Twyll

Deall twyll, sut i’w riportio a chael cymorth os ydych wedi dioddef twyll.

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.